Swydd: Rheolwr Cynnwys y We Adrannol, adran ystadegau, Llywodraeth Cymru

Hoffem benodi unigolion brwdfrydig sy’n llawn cymhelliant ac sydd â gwybodaeth a sgiliau ym maes y cyfryngau digidol, rheoli gwefannau a marchnata digidol.

Eich prif gyfrifoldeb fydd datblygu a gwella’r cynnwys sydd ar ein gwefan gorfforaethol a’n micro safleoedd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r defnydd o’r cyfryngau digidol er mwyn cysylltu â phobl Cymru a rhanddeiliaid.

Byddwch yn aelod allweddol o dîm cyfathrebu Llywodraeth Cymru ac yn arwain wrth gynghori staff o fewn rhai o’n hadrannau allweddol ynghylch defnyddio’r cyfryngau digidol yn effeithiol er mwyn hybu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a datblygu strategaethau cyfathrebu ar-lein ar gyfer polisïau, mentrau neu ymgynghoriadau allweddol.

Byddwch yn gweithio’n unol â brand corfforaethol a chanllawiau Llywodraeth Cymru, a byddwch yn gyfrifol am gomisiynu, drafftio, golygu a phrawfddarllen cynnwys ar gyfer y we, a sianeli ar-lein. Byddwch hefyd yn rheoli datblygiad micro safleoedd a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Byddwch yn gyfrifol am ddadansoddi data ac am ymateb yn gyflym i anghenion ein defnyddwyr.

Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da a byddwch yn gyfrifol am ddatblygu dealltwriaeth dda o feysydd polisi y byddwch chi’n gyfrifol amdanynt, cynnal cysylltiadau â’ch cydweithwyr, awduron cynnwys a rhanddeiliaid allanol.

mwy https://atsv7.wcn.co.uk/search_engine/jobs.cgi?SID=amNvZGU9MTE5MTQxMiZ2dF90ZW1wbGF0ZT04NTkmb3duZXI9NTAyMzM2OCZvd25lcnR5cGU9ZmFpciZicmFuZF9pZD0wJnJlcXNpZz0xMzA5MjgwNzE3LTY4N2VlN2U1MTdjM2FmYjkzOWU3NmIzMDBhMDFjODZjYjI4M2NlZTY=

plis cysyllta yn uniongyrchol, yn amlwg