http://loisdafydd.blogspot.com/2011/04/claro-fel-mwd.html
Ma blog Lois yn wych chware teg. Wedi ei ddarganfod trwy restr blogiau Hedyn:
http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg
http://loisdafydd.blogspot.com/2011/04/claro-fel-mwd.html
Ma blog Lois yn wych chware teg. Wedi ei ddarganfod trwy restr blogiau Hedyn:
http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg
Mae'r sylwadau wedi cau.
Cadwyd rhag ofn!
Ro’n i’n amau rhywbeth fel hyn. Dw i’ wedi bod yn darllen tipyn am Y Wladfa, yn enwedig nifer o gyfrolau sy’n cynnwys gohebiaeth rhwng Cymru a’r Wladfa dros y blynyeddoedd.
Un peth a nodwyd oedd, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyuntaf (neu falle’r Ail!) daeth symud yn ol a mlaen rhwng y Cymru a’r Wladfa i stop bron, a bu lot llai o gysylltiad. Yna, pan fu dthlu canmlwyddiant y Lanfa yn y 1960au, ail gynnwyd y cysylltiad, ac fel y daeth cost hedfan yn is, daeth ymweld a’r Wladfa yn rhywbeth ffasiynol i Gymry Cymraeg.
Y peth naturiol nesaf dybiais i, oedd cysylltu tros y we, yn enwedig gyda dyfodiad rhwydweithiau cymdeithasol, ond ychydig iawn sydd hyd heddiw. Mae’r erthygl uchod yn mynd rhyw ffordd at egluro hyn.
Dw i hefyd yn cael blas ar ddarllen blog Lois. Mae ambell i swyddog wedi bod draw i weithio i Batagonia o’i blaen, ond dw i’n meddwl mai hi yw’r cyntaf i gadw blog fel hyn, ac mae hi’n cael hwyl arni. Cafwyd tri cofnod ar flog Golwg360 gan Eluned Owena Evans, ond daeth i ben yn ddisymwth
Des ar draws blog Lois tra’n chwilio am fanyliona am Clecs Camey, papur bro newydd ardal Dyffryn Camwy yn Y Wladfa. Mae copi PDF ar gael ohono arlein, ond es i un cam ymhellach. Os chi’n nabod unrhwy un sydd wedi ymweld a Dyffryn Camwy, gofynwch iddyn nhw fynd draw i’r wefan a gadael sylw am lefydd maen nhw wedi ymweld a nhw.