Mae’r Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Elis-Thomas AC yn eich gwahodd chi i ddigwyddiad yn y Pierhead ar 30 Mawrth.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i flogwyr, rheolwyr cymunedau ar-lein ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio cyfryngau digidol i archwilio goblygiadau defnyddio technolegau newydd ar gyfer y broses ddemocrataidd, yng nghyd-destun Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd y gynhadledd yn gofyn sut yr hoffai pobl ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd yng Nghymru, gan ddefnyddio offer a phlatfformau digidol cymdeithasol ar-lein.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys David Babbs (38 Degrees), Dr Andy Williamson (Hansard), Marc Webber (Dipping Bridge) ac Alison Preston (Ofcom).
Bydd llefydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Darperir cinio.
Pierhead, Y Neuadd
30.03.2011 – 10.30 – 15.00
RSVP Geraint.Huxtable@cymru.gov.uk / 029 2089 8201
http://www.cynulliadcymru.org/gethome/get-events/get_involved-senedd2011.htm
Paid ag anghofio’r RSVP
Byse cael y gofnod yn y Gymraeg yn gam cyntaf da, os ydym am son am y cyfryngau digidol agored…
Huw, efallai dylet ti mynd a gofyn