Ychydig o ‘data input’ a phleidleisio ar y CLDR (Common Locale Data Repository)

Newydd gael y neges canlynol gan un o weinyddwyr Wicipedia sy’n gwneud lot o waith tu ôl i’r lleni yn lleoleiddio’r rhyngwyneb.  Wyddwn i ddim byd am CLDR tan hyn nac mai o’r fan hyn mae Wikimedia (a meddalwedd MediaWiki mae’n debyg) yn cael eu termau Cymraeg.

Efallai dy fod wedi clywed sôn am CLDR (Common Locale Data Repository) sy’n ran o Unicode, storfa ‘open source’ o ddata ar gyfer localisation. Mae enwau’r ieithoedd sydd ar WikiMedia yn dod o’r CLDR, ond ar hyn o bryd dyna’r unig wybodaeth sy’n dod atom ni ohono.

Maent yn cael cyfnod o ‘data input’ ar hyn o bryd (mae hynny’n digwydd rhyw ddwywaith bob blwyddyn). Mae angen pobl i gyfrannu geirfa Cymraeg arnynt ac hefyd i bleidleisio dros yr eirfa sydd yno’n barod er mwyn iddo gael ei roi ar gadw. Yna bydd yr enw ‘Breton’ e.e. yn diflannu o’r fersiwn Gymraeg o feddalwedd aml-ieithog a ‘Llydaweg’ yn ymddangos yn ei le!

Mae CLDR yn derbyn pleidleisiau a thermau newydd hyd at y 9fed o fis Mawrth. Bydd yn dal i dderbyn pleidleisiau hyd at y 6ed o Ebrill.

Os wyt ti am fwrw iddi, bydd eisiau agor cyfrif ‘Guest’ arnat yno. I wneud hynny dilynna’r cyngor fan hyn http://cldr.unicode.org/index/survey-tool/accounts.

Ar ôl cael cyfrif gelli fynd at y survey tool – byddi’n mynd i fan hyn http://unicode.org/cldr/apps/survey?s=izVf2bvu.JWhjJUb0TwLCixlXuk,&_=cy.
Yn ‘jump to’ gelli ddewis unrhyw un o’r mathau o ddata, gwed languages. Os wyt ti am bleidleisio dros rhyw derm gwasga’r botwm wrth ymyl y term. Dwi’n methu cael yr ‘add references’ i weithio hyd yma ac wedi holi am help mewn bug report. Mae rhagor o gymorth i’w gael fan hyn http://cldr.unicode.org/index/survey-tool.

Heb fynd yno eto i gyfranu, ond dw i’n siwr bod o’r math o beth gallwch bicio i mewn ac allan ohono’n rhwydd os oes pum munud sbâr gyda chi.