Mae Y Ddyfeisfa/Inventorium wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer busnesau Cymreig sydd yn edrych ar y farchnad apps. Mae nhw’n trio dod â datblygwyr, busnesau sydd eisiau defnyddio gwasanaethau symudol ac eraill sydd efo rhyw fath o ddiddordeb yn y maes at ei gilydd.
Dyma’r wybodaeth am y digwyddiadau.
Byddan nhw yn Aberystwyth ar y 18fed o Ionawr ac yng Nghaerfyrddin ar yr 22 Chwefror. Bydd dau ddigwyddiad arall ganddyn nhw yn Iwerddon.
Oes modd bathu term gwell nag ‘apps’? Mae’n Steve Jobs-aidd iawn. “There’s an app for that.”
Rhaglenni? Rhaglennau? ‘Rhagau’? ‘Rhagi’?
Dwi’n meddwl fod hi’n rhy hwyr i ennill y frwydr honno, er mai ‘rhaglennig’ oedd y cyfieithiad ar gyfer ‘applet’. Mae rhai pobl yn defnytdio ‘ap’ nawr (ie, mae Rhodri yn ap 🙂 sy’n Gymreig iawn ond ddim yn helpu chwaith.D
Ie, dwi di gweld ‘cymhwysiad’ yn cael ei ddefnyddio hefyd, ond mae hwnna’n eitha craplyd. Ella ddyla ni jest alw fo’n ap heb y ddwy p. Jest ‘meddalwedd’ dwi’n ddefnyddio weithia.
App fydd y gair o hyn allan debyg, unwaith mae’r Mac App store yn agor ddiwedd y flwyddyn.
iPhone App Store, Mac App Store, Android App… Mae’r gair yma i aros debyg.
Beth yw shiny baubles du jour yn Gymraeg
Addurniadau sgleiniog y dydd
Mae’r coch ma yn ormod. Makes me feel nauseous
A beth yw mwy nag un ap – apiau? neu rhaglenni?