Blogiau gwleidyddol a chofnodion dwyieithog – clickonwales.org

Ychydig o chwarae teg i clickonwales am post dwyieithog mis diwetha. (Efallai ti’n cofio’r drafodaeth wythnos diwetha am WalesHome.)

http://www.clickonwales.org/2010/07/from-penyberth-to-parc-aberporth-welcome-to-warmongering-wales/#cymraeg

Dw i ddim yn cyffrous iawn amdano fe – eto.

Dw i’n galw fe fformat Eurovision achos mae iaith yn dilyn iaith arall.

Peth da gyda’r fformat Eurovision – mae’n cadw’r sylwadau (pa sylwadau?) yn yr un lle.

Ond mae’n eitha lletchwith gydag erthyglau hir.

Dw i’n ffafrio dau gofnod gwahanol am erthyglau hir. Baswn i bostio Saesneg cyntaf a Chymraeg wedyn – Cymraeg ar y top. Mae’n gweithio ar Facebook, Twitter, ayyb hefyd. Ar fy mlog efallai gyda dolenni rhwng y ddau – fersiwn Cymraeg yma / English version here.

Ond y peth pwysicach i mi ar y we yw cynnwys unigryw yn Gymraeg… Dw i wedi profi disgrifiadau Saesneg ar ôl enghraifft Stephanie Booth. Dw i wedi rhoi disgrifiad ar y gwaelod o flaen.

(Pam? Mae’n personol. Dw i newydd wedi ymuno’r byd Cymraeg a weithiau dw i’n siarad am rhywbeth Saesneg fel yr enghraifft yna.)

Ond fel arfer dw i’n osgoi unrhyw disgrifiad dyddiau ‘ma. Mae’n dibynnu ar y cyd-destun.