Es i i lansiad llais synthetig am bobol dall ar y maes Dydd Mercher.
Siaradodd rhywun o RNIB, yr awdur Catrin Dafydd a Leighton Andrews AC.
Ac wrth gwrs, y llais synthetig!
Mae fe’n defnyddiol iawn am wefannau, llyfrau ayyb.
Ond dw i ddim yn gallu ffeindio unrhyw beth amdano fe arlein yn anffodus! Does dim manylion gyda fi nawr.
Anfonodd Golwg newyddiadurwr felly maen nhw yn cyhoeddi rhywbeth llawn gobeithio.
Hoffwn clywed sais synthetig sydd un tebyg i Gerallt Lloyd Owen!
Wnes i ddarllen y newyddion ar wefan yr RNIB ychydig ddyddiau nôl ond doedd dim sôn am le i gael y meddalwedd.
Nawr mae gwefan y cwmni Ivo yn cynnwys eitem newyddion am y ‘Welch’ voice (dyna ddechrau da iddyn nhw yn y farchnad Gymreig) ond does dal dim gwybodaeth am sut i gael y llais!
Mae’r stori yma yn parhau i fod yn ryw nofelti sy’n cael ei ail-gyflwyno bob hyn a hyn. Mae’r fideo yn dweud y bydd y llais ar gael yn 2011 nawr (am ddim neu mewn cynnyrch masnachol? Sneb yn dweud).
Mae’r cerddorion electronica yn aros hefyd.