Mae Kickstarter yn wedfan crowd-sourcing (rhaid i ni gael term call am hwnna…”torf-gasglu”?) ar gyfer ariannu prosiectau newydd. Efallai taw’r un enwocaf hyd yn hyn ydi prosiect Diaspora sy’n trio gwneud rhwydwaith gymdeithasol agored. Mae nhw wedi codi dros $200k erbyn hyn, sydd yn 20 gwaith eu targed gwreiddiol. Mae Suw Charman-Anderson hefyd wedi penderfynu trio codi arian ar gyfer ei phrosiect Argleton yno.
Wrth edrych am brosiectau yn ymwneu â iaith, mi ddes i ar draws hwn:
Swnio’n eitha diddorol. Ro’n i wedi clywed am yr iaith Silbo Gomero o’r blaen (mwy), ac mae’n fy atgoffa i o’r iaith xiriga sydd gan y gweithwyr teils yn Asturias. Hynny yw, yn iaith gyfyng iawn, sydd ddim yn adnabyddus o gwbl, a chwbl ddi-statws.
Mae nhw wedi llwyddo i gael dros 100% o’u targed hefyd ond ys gwn i a oes modd codi arian ar gyfer prosiectau Cymraeg yn y dull hwn.
Mae GalegoLab wedi dechrau gwneud hynny ar gyfer yr iaith Galisieg eisoes (bydd cofnod arall ar Metastwnsh am hynny cyn bo hir)…ydi hi ddim yn bryd i ninnau wneud hefyd?
Gwefan ariannu prosiectau arall yw http://www.kiva.org/