Chwilio termau

Tra fod Tim Berners-Lee a’i gyfeillion yn arwain prosiect i agor fyny y gwybodaeth sy’n cael ei greu gan y llywodraeth mae Cymru yn dal i fod yn ofn ‘dod allan’. Mae’r Cynulliad wedi ariannu nifer o brosiectau technoleg iaith dros y blynyddoedd a allai fod yn werthfawr iawn i ddatblygwyr yn y byd ‘agored’ ond mae’r wybodaeth hwnnw yn dal tu ôl i ddrysau caeëdig.

Lle mae’r geiriaduron Cymraeg fyddai ar gael i’w defnyddio yn rhad ac am ddim mewn prosiectau GPL (meddalwedd cywiro sillafu fel Aspell a fyddai hefyd o fudd i OpenOffice a WordPress). Lle mae’r API ar gyfer danfon testun i Cysill er mwyn ei gywiro? Mi fyddai gwasanaethau o’r fath yn werthfawr iawn.

Mae Prifysgol Bangor newydd gyflwyno porth i chwilio termau ar draws nifer fawr o eiriaduron arbennigol. Mae’r wefan yn defnyddio AJAX er mwyn gofyn am y canlyniadau a’i ddangos, a felly yn gwbl anhygyrch (mae angen Javascript i’w redeg). y Does dim posib rhoi dolen uniongyrchol i derm er enghraifft, a dyw hi ddim yn bosib creu peiriant chwilio yn eich porwr.

Mae’n enghraifft perffaith o ddatblygwr gwe yn defnyddio technoleg llawer rhy ‘glyfar’ am ddim rheswm o gwbl. Efallai fod hyn allan o anwybodaeth neu efallai ei fod yn ‘hawdd’ adeiladu y math yma o beth mewn .Net dwi ddim yn siwr.

Felly fe es i ati heddiw i wneud fersiwn hygyrch. Cwpl o oriau gymerodd hi a dyma’r canlyniad.

3 sylw

  1. Syr, ti’n arbenigwr. Gwela i ti ar y top o ganlyniadau – gyda Llyfrgell Owen Phrasebank…

    Ti’n nabod http://eurfa.org.uk (meddalwedd rydd GPL). Efallai creu projectau gyda fe pan dyn ni’n aros am eiriadur mawr?

    Dw i dal yn chwilio am eiriadur go iawn arlein. Mae’n ddrwg iawn. (e.e. Yn Saesneg dw i’n defnyddio http://m-w.com )

  2. Am waith diddorol! Dwi’n meddwl fel ‘y mod i’n clywed atsain – dwi wedi bod yn dweud yr un peth yn union ers saith mlynedd. Mae’r stwnsiad yn codi nifer o bwyntiau diddorol iawn o safbwynt dull a canlyniadau ail-becynnu. Buasai hi’n lot haws tase polisi glir ledled y wlad am ddefnydd allbynnau projectau wedi’u cyllido gan drethi. Ydych chi wedi ystyried bod yr amhosibilrwydd o greu “dolen uniongyrchol i derm” yn “nodwedd gynllun”? 🙂 Mae Carl wedi sôn ma Eurfa. Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio ar wneud fersiwn 2: ceisio ehangu’r rhestr hyd at 40,000 o eiriau (i’w dewis ar sail y geiriau yn Crubadán Kevin Scannell), mewnblannu Rhedadur (bydd hwn ar-lein eto yn fuan), rhoi dyfyniadau lle bosib allan o gorpora fel Wikipedia-cy, PNAW, Siarad ac ati, a mewnblannu Kywiro. Swn i’n falch siarad rhagor gyda chi ynglŷn â hyn – er enghraifft, os ydych wedi genued rhestr o eiriau ar gyfer eich cyfieithiadau o WP (roedd “paraddolen” yn newydd i mi).

Mae'r sylwadau wedi cau.