Gruffydd Prys “Os ydan ni’n ariannu cyfieithu gweithiau mawr o lenyddiaeth yna dylen ni’n sicr ariannu cyfieithu gemau cyfrifiaduron.”
11 sylw
Mae'r sylwadau wedi cau.
Gruffydd Prys “Os ydan ni’n ariannu cyfieithu gweithiau mawr o lenyddiaeth yna dylen ni’n sicr ariannu cyfieithu gemau cyfrifiaduron.”
Mae'r sylwadau wedi cau.
http://www.civilizationcymraeg.com/
Y broblem ydy dydan ni ddimyn ariannu gweithiau mawr o lenyddiaeth chwaith!
Efallai dylai Gruffydd gofynna cwmnïau gemau. Faint o gopïau ychwanegol gyda cyfieithiad Cymraeg fasen nhw yn werthu?
Beth yw gwahaniaethau economaidd (gyda gemau newydd)?
Llenyddiaeth – rhaid rhyddhau copïau newydd am cyfieithiad Cymraeg
cost cyfieithiad
cost sefydlog (platiau argraff ac hybu/marchnata arbennig)
costiau ymylol am pob copi (PWYSIG!)
Gemau – ti’n gallu ychwanegu cyfieithiad i’r dewisiadau eraill fel Ffrainc, Sbaeneg ayyb
cost cyfieithiad eto a graffigwaith
cost sefydlog? dim rili
dim costiau ymylol o gwbl – gyda pob gwerthiant ti’n ar y ffordd i elw
Beth yw cost cyfieithiad eto – tua? Mae’n bosib i wneud arian gyda gemau…
Diolch am hwn. Dwi newydd brynu’r gêm a’i lawrlwytho (1.3GB!) Nawr angen i mi drio deall sut mae ei chwarae!! 😉 Byddai’n bendant yn lawrlwytho’r pecyn iaith pan yn barod.
Gyda llaw, oes gemau da cod agored rhad ac am ddim ar gael ar gyfer y PC? Falle gallwn gyfieithu rhai o’r rhain a wedyn rhoi dolen iddynt ar Meddal?
Llongyfarchiadau i bawb am eu gwaith ddoe!
Be am Freeciv er enghraifft – http://freeciv.wikia.com/wiki/Main_Page
Heb weld FreeCiv o’r blaen – dw i’n licio’r ods yn y llun yma: http://freeciv.wikia.com/wiki/File:Two_eras.png
Mae Ifan Morgan Jones yn licio potsian gyda gemau hefyd: http://ifanmj.blogspot.com/2009/10/lleidr-yn-y-nos.html
Mwy o gemau cod agored yma: http://en.wikipedia.org/wiki/List_of_open_source_games
Diolch am gychwyn yr edefyn Rhodri 🙂
Tra mod i’n aros i rywbeth osod yn y gwaith…
Elin HG Jones: Maddeua i mi – be o’n i’n trio dweud oedd bod gwerth cyfieithu llenyddiaeth fawr i’r Gymraeg eisoes yn cael ei gydnabod yn gyffredinol yn y Gymru Gymraeg (gw. erthygl Graham Davies yn Planet dro yn ôl, er enghraifft). Mae cynsail hefyd yn bodoli, fel y gyfres o ddramâu a oedd yn cynnwys cyfieithiad Bruce Griffiths o Le Malade Imaginaire gan Molière, a’r gyfres o gyfieithiadau o straeon gwerin o wahanol ddiwylliannau lleiafrifol, i enwi dim ond dwy enghraifft.
Dwi ddim yn meddwl bod yno werthfawrogiad tebyg o’r gwerth sydd mewn cyfieithu gemau cyfrifiadur i’r Gymraeg. Dweud y gwir, mae’n hawdd chwerthin ar osodiad o’r fath – dydyn ni yng Nghymru ddim yn cymryd y cyfrwng newydd yma ddigon o ddifrif (er ei bwysigrwydd economaidd a’i gynulleidfa enfawr), ac mae’n gyfrwng sydd bron yn llwyr ar goll o’n hiaith ni, yn wahanol i lenyddiaeth lle mae gynnon ni ddiwylliant llenyddol brodorol cymharol iach.
Dwi’m am eiliad yn dweud y dylwn ni fod yn cymryd arian oddi ar lenyddiaeth i ariannu gemau cyfrifiadur – dim ond ei bod hi’n bryd i’n hagwedd ni fel Cymry at y cyfrwng aeddfedu, yn union fel y mae’r cyfrwng wedi gwneud yn y blynyddoedd diwetha’.
Ymateb i Carl: Dwi ddim yn siwr a oes ‘na ddadl economaidd ar hyn o bryd i gwmnïau gyfieithu gemau i’r Gymraeg. Ond, petai gêm fel Civ IV ar y cwricwlwm addysg yng Nghymru (a dwi’n meddwl y dylai fod), byddai rheswm masnachol dros ei gyfieithu, a byddai’n dechrau normaleiddio’r disgwyliad o ggael gemau cyfrifiadur yn y Gymraeg. Gallai hynny yn y pen draw greu marchnad fwy cyffredinol ar gyfer gemau Cymraeg, yn enwedig os ydi technolegau cyfieithu yn gallu gostwng pris cyfieithu yn y cyfamser.
Hedd: Fe wna i roi gwybod i ti pan fydd y pecyn iaith ar gael ar y safle (mewn diwrnod neu ddau).
Dwi wedi cyfieithu OpenTTD hefyd, fersiwn cod agored (gwell!) o Transport Tycoon, sef un o fy hoff gemau erioed. Efallai bod angen i mi ddiweddaru’r cyfieithiad.
Wedi gweld Freeciv hefyd, ac yn chwarae efo’r syniad o ddefnyddio cyfieithiad Civ IV fel cof cyfieithu ar ei gyfer.
Deall ergyd dy bwynt yn iawn Gruff. Wrth gwrs mae arian yn cael ei fuddsoddi mewn cyfieithu cynnyrch diwylliannol yn enwedig animeiddio teledu a llyfrau plant. Mae hi’n amserol iawn i godi’r mater gemau cyfrifiadurol ar hyn o bryd yn enwedig gan y bydd gwasanaeth plant hy^n gan S4C yn cychwyn yn y Gwanwyn, a chwmni Boomerang fydd yn ei ddatblygu.