Y tro yma ar y Jellicle podlediad sy’n 2 awr o dy amser gei fi fyth nôl… Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut mae’r Premier League a byd e-sports basically r’un peth erbyn hyn; saga parhaol app contact tracio yr NHS; Shopify fel lle gwell i siopa nac Amazon a llawer LLAWER… Parhau i ddarllen Haclediad 87: Mr Mistoffe-plîs stopia
Tag: podcast
Haclediad 86: Crims Hems-worth it?
Croeso i bennod mis Mai 2020 o’r Emmy® award nominated Haclediad – sy’n panicio braidd bydd bobl actually yn gwrando tro ‘ma. Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs,… Parhau i ddarllen Haclediad 86: Crims Hems-worth it?
Haclediad 85: Da Di Dane DeHaan De?!
Croeso i ail bennod manic lockdown energy yr Haclediad – yn dod atoch chi’n fyw o, wel yr union un lle ac o’r blaen – ond gyda gin drytach. Ar y bennod yma (gafodd ei recordio cyn i sgilz Cymraeg Alexa ddod allan) bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod yr iPhone SE massive newydd,… Parhau i ddarllen Haclediad 85: Da Di Dane DeHaan De?!
Haclediad 84: Codiad Ymyl Heddychlon
Ar bennod ddiwedara’r Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yma i ddelio efo’ch holl issues gofid-19 – ac i wneud chi chwerthin a glafoerio (ond ddim am yr un peth). Ni’n agor drysau’r clwb Ffilm Di Ddim gyda Pacific Rim: Uprising, yn canu moliant yr iPad newydd ac yn taflu awgrymiadau aps allan fel dwnim… Parhau i ddarllen Haclediad 84: Codiad Ymyl Heddychlon
Haclediad 83: Gin & Aptonic
Ar bennod ddiweddara’r Haclediad, bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud RIP i Apton, yn croesawu dyfodol 5G yr A55 ac yn trio ffigro dyfodol darlledu Cymru. Mae’r Afterparty yn llawn gorfoledd gwledd o ffilms Ghibli ar Netflix, piciad mewn ar Picard, pwt am Llyfr Glas Nebo LIVE! plus Bryn a’r Birds of Prey –… Parhau i ddarllen Haclediad 83: Gin & Aptonic
Haclediad 82: Brynjury Recovery Blwyddyn Newydd
Blwyddyn newydd dda gan griw’r Haclediad! Neidiwch mewn i ~2awr o epic i groesawu 2020 gyda Bryn, Iestyn a Sioned – byddwn ni’n trafod sut fod camera drws Ring yn rili doji, Sonos yn siwio Google, ac afterparty epic sy DDIM yn siarad am Star Wars Rise of Skywalker, ond sydd sorto yn.
Haclediad 81: 9 mlynedd yn y busnes
Ar bennod ddiweddaraf dy hoff bodlediad oedd-yn-arfer-bod-am-tech-ond-sy-rŵan-am-Duw-â-ŵyr-be: Watchdog yn mynd yn gonzo ar Monzo; mwy o ddoethineb Craig Mod, ac mi aeth Iestyn i weld Joker 🤡🤡🤡
Mae’r after party yn llawn awgrymiadau anime a sci-fi i lleddfu nosweithiau tywyll yr hydref, joiwch!
Haclediad 80: Pawb at y Biji-bô!
Tro yma ar eich hoff podlediad sy ddim wastad ‘dan 2 awr: Iest sy’n mynd trwy holl gyhoeddiadau newydd Apple, ni’n holi lle mae’r sci fi Cymraeg, mwy o stwff Apple, box sets, llyfrau, mwy o Apple a’r after parti hiraf ar record. Diolch am wrando, gadwch i ni wybod be chi’n meddwl ar @Llef… Parhau i ddarllen Haclediad 80: Pawb at y Biji-bô!
Haclediad 79: Ffeindia dy poni mewnol
Ym mhennod parti’r bŵsi’r haf, mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio osgoi’r negyddol a chofleidio’r positif, iei! Ond hefyd, gorfod sôn am 5bn o ddirwy i Facebook, ap Tro sy’n cadw enwau mynyddoedd Cymru, trip cyntaf Sioned i’r Genius Bar ac epic afterparty Spider-man Far From Home, sboilers ymhobman! Cefnogwch yr Haclediad ar Ko-Fi… Parhau i ddarllen Haclediad 79: Ffeindia dy poni mewnol
Haclediad 78: FaceBucks
Ar bennod hira’r haf bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn ystyried yr axis of evil tu ôl i Libra, arian newydd Facebook; yn breuddwydio am fynd am ffwc o dro tawel ac yn glafoerio dros popeth yn nghynhadledd gemau E3. Mae’r afterparty yn bownsio efo Good Omens, Nailed it, MIB: International a gemau bwrdd epic!… Parhau i ddarllen Haclediad 78: FaceBucks