Haclediad 57: Yr Hashnods Perthnasol

Ym mhennod ddiweddaraf yr Haclediad bydd y Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut gall yr hashnods cywir ddileu terfysgaeth, pam mai dal dim ond bŵz siomedig sydd gan Sioned, Brwydr y Barfau a holi faint o turn on yw’r Switch. Ymunwch â nhw am awr o farn heb ymchwil na gwybodaeth, falle fydd o’n… Parhau i ddarllen Haclediad 57: Yr Hashnods Perthnasol

56: Bŵz rhad a Nokias anfarwol

Ym mhennod yma stori epic trawsnewidiad yr Haclediad o raglen tech i raglen gwirod a nostalgia; ry’n ni’n edrych ar y Nokia 3310, sy’ wedi ei atgyfodi, yn galaru am wasanaethau Google sy’n sicr ddim, ac yn chwennychu am Nintendo Switch, iei! Hyn i gyd a llwyth o sgwrsio, rhegfeydd a barn heb wybodaeth, yn… Parhau i ddarllen 56: Bŵz rhad a Nokias anfarwol

55: Nerdageddon yn Hacio’r Iaith 2017

Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i… Parhau i ddarllen 55: Nerdageddon yn Hacio’r Iaith 2017

54: Minilediad Hacio’r Iaith 2017

Yn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain… Parhau i ddarllen 54: Minilediad Hacio’r Iaith 2017

Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn!

Tro yma ar yr Haclediad – mae’r Iest test nôl! Siarad am bylbs brilliant Phillips Hue. ‘Da ni hefyd nôl gyda’r home helpers digidol, Alexa o Amazon tro yma, plygwn ni’n clustiau at BBC Radio Cymru Mwy ac o bosib anfon y Cymro cyntaf i’r blaned goch gyda SpaceX. Hefyd, rhestri hirfaith o stwff gwych… Parhau i ddarllen Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn!

Haclediad 50 – Canol Oed

Croeso i bennod restrospectif (a hyd yn oed mwy random nac arfer) arbennig o’r Haclediad yn dathlu cyhoeddi ein hanner canfed podlediad. Bydd Bryn, Sioned ac Iestyn yn mynd a chi nôl trwy’r archif, ond yn trafod stwff heddiw hefyd fel bwtler Google, Android pay a minimaliaeth. Diolch enfawr i chi gyd am wrando dros… Parhau i ddarllen Haclediad 50 – Canol Oed

Haclediad 49: Haciaith 2016

Mentrodd 66% o griw’r Haclediad i ddigwyddiad byw Hacio’r Iaith 2016 yng Nghaerdydd – ar cyfan gewch chi di’r podlediad ma! Buodd Bryn a Sioned yn cyfweld creawdwyr Macsen, llais AI cynta’ Gymraeg, yn ogystal â bwyta llawer gormod o Jelly Babies…

Haclediad 48: OMB Haclediad arall syth bin!

Haclediad newydd i’ch clustiau mewn llai na 6 mis? Be sydd, yn wir, haru ni? Tro yma bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod iPhones newydd (dyna sioc), Apple yn 40, rhwydwaith cymdeithasol kawaii ru hwnt newydd Nintendo, pa hawl sgen yr FBI i’ch gwybodaeth chi a cheir widawiw Tesla. Hyn oll a mwy yn… Parhau i ddarllen Haclediad 48: OMB Haclediad arall syth bin!

Haclediad 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap

Ar Haclediad cynta’r flwyddyn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn busnesa yn sioe tech CES, yn clywed mwy am Bryn ar y radio, snarkio am Snapchat a phendroni am BT Openreach (mwy diddorol nac y mae’n swnio, addo!). Fel pob rhifyn arall byddwn yn pigo’r gorau o straeon tech y mis ac yn hedfan off… Parhau i ddarllen Haclediad 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap