Helo-ho-ho, dyma anrheg Nadolig bach cynnar i chi – Haclediad #3!
Ar y rhifyn hwn bydd Iestyn Lloyd (@iestynx) Bryn Salisbury (@bryns) a Sioned Edwards (@llef) yn trafod y mis diwethaf ym myd tech, ac yn edrych mlaen i’r flwyddyn newydd.
Ar y fwydlen mae trafodaeth o system weithredu newydd Apple iOS 4.2.1 a dyfodiad y Beatles i iTunes; mwy ar broblemau diogelwch Facebook, a byddwn yn holi os yw’n troi yn ghetto i’r Gymraeg arlein. Hefyd gwybodaeth ECSGLIWSIF ar ddigwyddiad Hacio’r iaith 2011, a beth mae’r cyfranwyr yn chwilio amdano o sach Siôn Corn.
Mwynhewch, a ‘Dolig Llawen i chi gyd!
Penigamp!
O’n i’n hoffi’r darn am y we agored a Chymraeg yn enwedig. Quelle surprise.
Podlediad gwych fel arfer. Ma Steve Corn wedi dod yn gynnar yma gan roi MacBook Pro i fi. Diolch Steve (a ysgoloriaeth KESS!!) 🙂
Edrych mlaen at yr un nesa’n barod. Dolig llawen i bawb!
Diolch chaps – a da iawn ti Steve Corn, allwch chi gnesu’ch hunain rownd y batri poeth dros yr wyl yn Chez Siencyn!