Mae gwefan newydd wedi ei lansio – Golyg – ar gyfer rhannu rhaglenni teledu Cymraeg drwy dechnoleg BitTorrent. Mae e wedi ei anelu at y Cymry alltud hynny tu allan i wledydd Prydain (a gogledd Ewrop) sydd ddim yn gallu gwylio S4C.
Mae’r ‘cipwyr’ yn recordio rhaglenni S4C oddi ar yr awyr drwy gerdyn neu focs digidol, golygu’r ffeil i dorri allan yr hysbysebion, a’i gywasgu i fformat MP4.
Dyw S4/Clic ddim ar gael yn fyd eang, a dyma’r unig ffordd y gall Cymry dramor wylio y rhaglenni Cymraeg diweddaraf. Mae angen i S4C edrych ar sut i ddarparu rhaglenni yn fyd-eang. Roedd sôn ers tipyn y byddai rhaglenni S4C ar gael yr iPlayer cyffredin ond does dim wedi dod o hyn eto.
Mae’r BBC yn paratoi fersiwn byd-eang o’r iPlayer fyddai’n platfform delfrydol i S4C. Dwi’n dyfalu y byddai angen talu i gael mynediad i’r platfform ond y byddai cyfle i werthu hysbysebion hefyd. Fe fyddai iPlayer rhyngwladol yn gyfle i gynyddu cynulleidfa S4C tu allan i Gymru.
Ond yn ôl at Golyg – mi fyddai’n ddefnyddiol os oedd fwy o bobl yn rhannu’r gwaith o lwytho rhaglenni i fyny. Mae’n cymeryd tipyn o amser ac ymdrech i wneud y gwaith ond mae e’n ymddangos i fod yn wasanaeth defnyddiol iawn yn barod.
Ydy e’n erbyn y gyfraith I rannu rhaglenni sydd ddim ar gael bydeang?
Mae’n siomedig nad yw S4C ddim yn darparu’r rhaglenni eu hunain, a bod rhaid mynd lawr ffordd anghyfreithlon i’w cael nhw.
Debyg y bydd S4C yn gwneud yr holl a gallynt i gau’r gwasannaeth yma i lawr.
Yn dechnegol ydi. Mae yna bobl sy’n recordio rhaglenni ar fideo/DVD a’i ddanfon allan i ffrindiau yn ngwledydd tramor a mae hyn yn anghyfreithiol hefyd.
Dwi’n credu fod polisi Golyg tebyg i lawer o wefannau o’r math yma – dyw defnyddwyr ddim yn cael rhannu ffeiliau sydd ar gael yn fasnachol ar fideo neu DVD neu unrhyw fodd arall.
Y broblem gyda darpariaeth tramor dan drwydded yw hawliau a breindal. Fel arfer maen nhw yn talu actorion, cerddorion, ayyb am y DU yn unig.
Gyda llaw mae llawer o raglennu ar goll ar ôl eu tymor ar Clic felly mae hwn yn ddefnyddiol iawn.
Darpariaeth annibynnol heb drwydded swyddogol yw ffordd i greu/ymchwilio galw.
Mae copïo gallu bod yn iachus…
Enghraifft: The Wire
http://www.newstatesman.com/scitech/2008/08/illicit-file-wire-series-hbo
Enghraifft: Monty Python ar YouTube
http://www.guardian.co.uk/media/pda/2009/feb/26/monty-python-dvd-sales-soar
http://boingboing.net/2009/01/23/monty-pythons-free-w.html
Mae’n wir fod breindaliau yn broblem. Y broblem arall yw fod yr hawliau yn mynd yn ôl i’r cynhyrchwyr. Faint o gynhyrchwyr sydd eisiau gwario amser yn trefnu a talu i ryddhau rhaglenni yn fyd-eang (does dim wir rheswm masnachol i wneud). Mae ‘BBC Worldwide’ yn gallu chwilio am farchnad (gyda BBC America ac ati) a gwneud y gwaith ar ran cynhyrchwyr – sgwn i be mae S4C Rhyngwladol yn gallu gwneud yn y maes?
Rydym yn S4C yn gwerthfawrogi bod pobl y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn awyddus i wylio rhaglenni S4C. Ond ar hyn o bryd nid oes gennym yr hawliau i ddarlledu ar y we tu hwnt i’r DU. Nid yw deiliaid hawliau penodol yn barod bob amser i ganiatau i darlledu byd eang ac hyd yn oed pe bae’n bosib cael yr hawl fe fyddai angen i S4C dalu’n ychwanegol er mwyn caniatau darlledu’r rhaglenni hynny.
Dyna pam mae meddalwedd ‘Geo Blocker’ yn atal gwasanaeth Clic rhag cael ei ddefnyddio’n fyd-eang.
Hoffwn ar ran S4C apelio arnoch i beidio â lawrlwytho rhaglenni gan bod gwneud hynny yn tramgwyddo ar hawliau unigolion/cwmniau eraill.
Gwerth nodi hefyd fod rhai o’r rhaglenni a gynhyrchir fel Taro 9 a CF99 ar gael yn fyd-eang.
Gwerth nodi hefyd fod rhai o’r rhaglenni a gynhyrchir fel Taro 9 a CF99 ar gael yn fyd-eang.
Sut/ble?
Y rheswm dw i’n gofyn ydy achos derbynias i’r neges canlynol gan ffrind i mi:
Rwy’n gweithio yng Ngwlad Pwyl … ac yn dysgu’r Gymraeg mewn Prifysgol yno. A dweud y gwir, y rheswm dros y neges oedd fy mod yn cofio dy fod yn gweithio i ryw gwmni darlledu yng Nghaerdydd. Rwy’n teimlo bod hyn yn gwestiwn digywilydd braidd, ond … oes gen ti fynediad i archif fideo yn dy waith? Dwy i wedi cysylltu a Clic drosodd a thro ynghylch y posibilrwydd o gael hyd i raglenni Cymraeg … ond dydyn nhw ddim wedi bod yn rhy gefnogol hyd yn hyn. Yn blwmp ac yn blaen, does dim deunydd defnyddiol yma yn yr adran, ac rwy’n awyddus i ddangos rhywbeth o safon i’r myfyrwyr … cyfres wych fel ‘Chwedlau’r byd’ … ‘Beowulf’ … rhaglenni dogfen y diweddar Gwyn Alf Williams am y Brenin Arthur. Rwy’n fodlon talu am unrhyw gostau.
Hia Rhys. Mae modd gwneud cais ar gyfer rhaglenni penodol er mwyn rhesymau academaidd/addysgiadol. Y ffordd orau i gysylltu a Sioned Gwyn yn yr Adran Gyfathrebu (enw cyntaf dot ail enw neu s4c@s4c.co.uk). Mae modd gwylio CF99 drwy Clic, ac fe fydd cyfres newydd o Taro 9 nol fis Mawrth ac fydd modd gwylio hwnnw ar clic hefyd.
Meddyliau am S4C, Golyg a BitTorrent
http://quixoticquisling.com/2010/12/s4c-golyg-a-bittorrent-ffrindiau-neu-gelynion/