Cofnod blog cyntaf gan Martin Shipton? (Croeso!)
http://paidcontent.co.uk/article/419-the-grassroots-cant-fix-the-ways-proprietors-have-wrecked-their-papers/
To suggest that blogging and other atomised activity on the internet will plug the gap is profoundly wrong, I believe. Most blogging is opinionated commentary on current events. Without professional journalists to supply the raw material to comment on, bloggers will be forced to navel-gaze quite literally.
Beth yw y mwyafrif o flogiau? Lluniau o gathod? Barddoniaeth emo? Spam? Neu rhywbeth arall?
“Nid oes unrhyw beth yn bodoli ar wahân i atomau a gofod gwag; bran yw popeth arall”. Democritus
Nes i weld eitem mewn ffrwd Click on Wales ac o’n i’n meddwl bod Martin Shipton wedi blogio eto – am yr ail dro!
Ond paid â chyffroi gormod, mae Click on Wales wedi ailgylchu’r un erthygl o 2010, yr un erthygl yn union heblaw gair ychwanegol bob hyn a hyn.
http://www.clickonwales.org/2011/09/welsh-civic-engagement-6-stuck-with-the-media-giants/
Mae’r sgwrs ymhlith y diwydiant newyddion proffesiynol wedi symud ymlaen ychydig o’r pwyntiau yma o’n i’n meddwl – yn enwedig y cwm mawr rhwng blogwyr a newyddion ‘proffesiynol’… Wrth gwrs mae’r ddau yn rhan o’r un tirlun newyddion. Gawn ni bathu’r term Cwm Shipton?