S4C Tywydd

O datganiad y wasg S4C

Y TYWYDD YN TORRI TIR NEWYDD AR S4C

Ar y 1af o Dachwedd bydd S4C yn lansio gwasanaeth tywydd newydd sbon fydd yn torri tir newydd yn hanes darlledu’r tywydd ar deledu yn y Deyrnas Unedig.

Cwmni cynhyrchu annibynnol Tinopolis o Lanelli fydd yn gyfrifol am gynhyrchu’r gwasanaeth gan weithio ar y cyd â Weather Central, cwmni sydd ar flaen y gad yn fyd-eang am ddarparu gwybodaeth a graffeg tywydd.

Bydd y tim cyflwyno tywydd o dri, Chris Jones, Erin Roberts a Mari Grug yn parhau ar ein sgriniau gan weithio tu ôl i’r llen gyda thechnoleg darogan a graffeg arloesol. S4C yw’r darlledwr cyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud defnydd o system ddarogan 1km unigryw Weather Central, golyga hyn bod modd nesáu at lefel tu hwnt o leol er mwyn darparu rhagolygon manwl a phenodol.

Ynghyd â darparu bwletinau tywydd cyson o bencadlys Tinopolis yn Llanelli bydd bwletinau ar-leoliad o ddigwyddiadau mawr y calendr Cymreig yn rhan o’r patrwm darlledu. Yn ystod tywydd garw bydd bwletinau estynedig yn cael eu darparu. Bydd y gwasanaeth ar y teledu yn cael ei gefnogi gan wefan ddwyieithog newydd, gyda’r manylder darogan 1km yn rhoi gwybodaeth manwl a lleol i ddefnyddwyr y wefan. Nid oes gwefan arall yn y Deyrnas Unedig yn cynnig gwybodaeth ar raddau mor lleol.

Dywedodd Adam Salkeld ar ran Tinopolis:

“Ar wefan newydd gwasanaeth tywydd S4C mae modd rhoi côd post unrhyw leoliad yng Nghymru er mwyn derbyn rhagolygon ar gyfer y stryd honno, y gymuned, tref neu phentref. Bydd hyn yn adnodd gwerthfawr os ydych yn trefnu barbeciw, diwrnod yn yr awyr agored neu os am wybod pryd ddaw’r rhew i amharu’r ardd. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cyflwyno hyn yng Nghymru cyn unman arall.”
Gan siarad ar ran Weather Central, dywedodd Chip Mobley Is-Lywydd y cwmni:

“Pan yn ymweld â Chymru rwy’n rhyfeddu at amrywiaeth y tywydd, gall yr haul fod yn gwenu’n braf mewn un pentref yna’n glawio’n y pentref drws nesaf! Dyma un o’r rhesymau pam ein bod mor falch o gydweithio gyda S4C a Tinopolis er mwyn dod a ffordd newydd arlosoel o gyflwyno’r tywydd i Gymru.”

(cwmni Weather Central)

Y wefan
http://tywydd.s4c.co.uk/

Mae gyda nhw cyfrif Twitter a blogiau hefyd.

Beth wyt ti’n meddwl?

Basai ffrydiau yn neis. Hoffwn i sgwennu rhywbeth i gymharu’r data tywydd lleol gyda data eraill ledled Cymru.

3 sylw

  1. Bore da Carl, diolch yn fawr iawn am dy sylw a dy ymateb i wasanaeth newydd y tywydd ar S4C. Cofia os hoffet gyfrannu i’r wefan neu ymateb ymhellach i’r gwasanaeth, cysyllta â ni ar y cyfeiriad yma – tywydd@s4c.co.uk.

  2. O wefan Tywydd S4C:

    Defnyddir mapiau a gyflenwir gan Microsoft ar y wefan hon, felly ar brydiau bydd enwau a geiriau Saesneg yn ymddangos. Rydym ar hyn o bryd yn cydweithio â Microsoft er mwyn gwella’r ddarpariaeth o’r Gymraeg ar y wefan a’r mapiau.

    Pob lwc gyda hynna! Wrth gwrs, mae Open Street Map ar gael yn Gymraeg yn barod (ac AM DDIM gyda llaw.)

Mae'r sylwadau wedi cau.