Hyd yma dim ond ar Firefox a Google Chrome mae Common Voice Cymraeg wedi bod ar gael. Heddiw, mae Mozilla wedi cyflwyno newidiadau i’r wefan sy’n golygu ei fod ar gael ar Microsoft Edge, y porwr Cymraeg sydd gan Microsoft yn Windows 10.
Mae rhai sefydliadau yn cyfyngu eu dewis o borwr i offer Microsoft gan gynnwys Internet Explorer ac Edge. Fydd Common Voice er hynny ddim yn gweithio yn Internet Explorer oherwydd diffygion technolegol y porwr.
Felly, os ydych yn ddefnyddiwr Edge hapus, mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu
Os yw eich man gwaith yn defnyddio Edge, mae modd gofyn iddyn nhw greu ymgyrch ymhlith staff i gasglu lleisiau. Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn gwneud defnydd o dechnoleg llais yn y dyfodol felly mae cyfrannu tuag at Common Voice yn fantais iddyn nhw.