Mae rhwydwaith creadigrwydd Prifysgol Caerdydd – Caerdydd Creadigol – yn cynnal noson i ddangos prosiectau Cymraeg yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, 18:30 – 20:00 ar y 18fed o Orffennaf 2016. Dyma’r arlwy:
Huw Marshall – Awr Cymru
Cai Morgan – PUMP
Daf Prys – FIDEO8
Dyma’r manylion o wefan Caerdydd Creadigol:
“Mae ‘Dangos a Dweud’ Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy’n rhoi platform i amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol y ddinas. Mae’n dod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd o dalent sefydledig i dalent newydd, i glywed am eu huchelgeisiau a’u prosiectau cyfredol.
“Bydd pob un o’r siaradwyr yn rhoi cyflwyniad brys o 10 munud ac yn dod â gwrthrych gyda nhw. Gallai’r gwrthrych fod yn ffynhonnell eu hysbrydoliaeth, offeryn gwaith neu rywbeth sy’n eu cysuro. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrych.
“Cyflwynir y digwyddiad hwn yn Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.”
Damo, nes i golli hwn. A fydd cyfleon tebyg yn y ddyfodol? Mae hwn yn swnio fel syniad gwych.