Mae’r ap WordPress ar gyfer Android wedi cael ei ddiweddaru i fersiwn 4.5 gyda mân welliannau:
- Gosodiadau Hysbysiadau Newydd sy’n caniatáu i chi newid hysbysiadau pob blog yn unigol.
- Hoffi (neu beidio) beth rydych yn ei weld? Gallwch nawr gyhoeddi neu ddychwelyd newidiadau lleol yn y sgrin Rhagolwg.
- Cefnogaeth i bentwr o hysbysiadau yn Android Wear.
- Mân newidiadau i’r Rhestr Cofnodi Darllenydd a Cofnod Darllenydd yn y sgrin manylion.
- Modiwl newydd “Crynodeb o’r Cofnodion Diweddaraf” ar y dudalen Mewnweled Ystadegau.
Mae’n becyn defnyddiol iawn ar gyfer cyfansoddi ar gyfer eich blog neu wefan, darllen cynnwys pobl eraill drwy WordPress.com a chadw llygad ar ddefnydd eich gwaith. Mae’n werth ei ddefnyddio ar ffôn neu dabled Android.
Hefyd, mae fersiwn Apple iOS Cymraeg o WordPress ar y gweill, yn disgwl datblygu peirianwaith i gymryd mantais o ddewis ehangach o ieithoedd yn iOS ers fersiwn 8. Pryd? Cyn bo hir…