Mae’n rhifyn rhyngweithio Cymraeg ar yr Haclediad y mis hwn gyda’r criw, Bryn, Iestyn a Sioned. Byddwn yn trafod pen-blwydd cyntaf Lleol.net, datblygiad ac adborth ar drawsnewidiad gwefan Golwg360 ac erthygl Bryn ar strategaeth (neu ddiffyg strategaeth) ddigidol S4C.
‘Does dim anwybyddu’r tech chwaith serch hynny, felly peidiwch poeni! Mae’r iPad2 wedi cyrraedd, ydi o werth y ciwio? Ac yna mae dyfodiad gwasanaeth cwmwl Amazon hefyd i ni gael busnesa ar tech rhyngwladol yn ystod y rhifyn yma yn ogystal â popeth ychydig agosach i gartre’.
Diolch am wrando, a chofiwch adael sylw i ni gael gwybod be da chi’n ei feddwl: da neu ddrwg!
Criw’r Haclediad
Ail-wrando!
Gwefan dating Cymraeg amser maith yn ôl roedd… Pishyn.