Mae’n flwyddyn nawr ers i Mozilla ryddhau Common Voice ar gyfer y Gymraeg, gw. Parlez-vous Deutsch? Rhagor o Leisiau i Common Voice
Mae gennym darged cychwynnol o 100 awr ac rydym wedi cyrraedd 42 awr wedi’u dilysu a 48 awr wedi eu recordio, felly, cynnydd da, ond tipyn o ffordd i fynd!
Diolchiadau felly i bawb sydd wedi cyfrannu eu llais neu/ac wedi bod yn dilysu – diolch yn fawr!
Diolch hefyd i Mozilla a’u staff sydd wedi bod yn gefnogol iawn i’r gwaith, Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, sydd wedi gweithio’n agos gyda Mozilla ar sail eu profiad gyda’r gwaith o amgylch yr ap casglu lleisiau, Paldaruo.
Diolch hefyd i Fentrau Iaith Cymru, Cyngor Gwynedd a’r Mudiad Meithrin am hyrwyddo Common Voice o fewn eu corff.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi trydariad gyda fideo cyfarwyddiadau. Diolch yn fawr 🙂
Bu Stefano Gizhalli, Uned Technolegau Iaith ar rhaglen radio Ffion Dafis yn sôn am Common Voice.
A wnewch chi gyfrannu eich llais a dilysu? Beth am drefnu rhywbeth yn yr ysgol neu waith? Beth am gynnal parti Common Voice ar gyfer eich ffrindiau?
Fel hyn byddwn yn darparu technoleg llais ar gyfer ni ein hunain ac ar gyfer ein cyd siaradwyr Cymraeg.
Ymlaen, felly!