Rwy wedi llunio nifer o siartiau newydd yn edrych ar faint o blant ysgolion uwchradd a chanol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy’n sefyll arholiadau TGAU yn Gymraeg. Mae rhai o’r siartiau wedi cael eu trydar yn ddiweddar ac rwy newydd eu cyhoeddi yma: https://statiaith.com/blog/iaith_tgau_ysgolion-uwchradd-a-chanol-cyfrwng-cymraeg-neu-ddwyieithog/
Ond y rheswm i mi gofnodi hyn ar haciaith yw fy mod yn meddwl y dylwn gyfrannu, yn ysbryd cod a data agored, a chan obeithio y gallai fod o ddiddordeb, yr holl god R ysgrifennais i’w creu. Mae’r cod, a rhagor o ganlyniadau, i’w weld yma: http://statiaith.com/cymraeg/ysgolion/Dadansoddi_iaith_TGAU.nb.html
Ffeil Excel gan Lywodraeth Cymru oedd ffynhonnell y data oedd yn sail i’r cyfan. Gellir ei lawrlwytho yma.