Beth sy’n Newydd
Dyma Twenty Seventeen…
Mae ein thema ragosodedig newydd yn bywiogi eich gwefan gyda delweddau llawn a phenynnau fideo.
Mae Twenty Seventeen yn bennaf ar gyfer gwefannau busnes ac yn cynnwys tudalen ffont cyfaddas gydag adrannau lluosog. Gallwch ei bersonoli gydag ategion, dewislenni cymdeithasol, logo, lliwiau cyfaddas, a mwy. Mae ein thema ragosodedig ar gyfer 2017 yn gweithio’n dda mewn llawer o ieithoedd, ar unrhyw ddyfais ac ar gyfer ystod eang o defnyddwyr.
Eich Gwefan Chi, Eich Ffordd Chi
Mae WordPress 4.7 yn ychwanegu nodweddion newydd i’r cyfaddaswr i gynorthwyo gyda’r camau cyntaf o osod thema, ynghyd â rhagolygon byw o’ch holl newidiadau fel un llif gwaith di dor.
Cynnwys Thema Cychwynnol
Er mwyn rhoi seiliau cadarn i chi adeiladu arno, gall themau unigol ddarparu cynnwys cychwynnol sy’n ymddangos pan fyddwch yn cychwyn cyfaddasu eich gwefan newydd sbon. Gall hyn ymestyn o osod teclyn manylion busnes yn y lleoliad gorau i ddarparu dewislen syml gyda dolenni cymdeithasol i dudalen flaen sefydlog ynghyd â delwedd drawiadol. Peidiwch â phoeni, bydd dim newydd yn ymddangos ar y wefan fyw nes eich bod yn barod i’w gadw a’i gyhoeddi gosodiad eich thema gychwynnol.
Golygu Llwybrau Byr
Penynnau Fideo
Weithiau mae cael fideo mawr trawiadol fel delwedd pennyn symudol yn union yr hyn sydd ei angen i chi arddangos eich nwyddau; os felly, rhowch gynnig ar Twenty Seventen. Angen ysbrydoliaeth fideo? Chwiliwch am wefannau sydd â phenynnau fideo i’w llwytho i lawr a’u defnyddio.
Creu Dewislenni’n Hwylus
Mae llawer o ddewislenni ar wefannau yn cynnwys dolenni i dudalennau ar eich gwefan, ond beth sy’n digwydd pan nad oes gennych unrhyw dudalennau eto? Nawr mae modd ychwanegu tudalennau newydd wrth adeiladu dewislen yn lle gadael i’r cyfaddaswr ac yna anghofio eich newidiadau. Unwaith i chi gyhoeddi eich cyfaddasiadau, bydd gennych dudalennau newydd i chi eu llanw gyda chynnwys.
CSS Cyfaddas
Weithiau mae angen gwneud ychydig o newidiadau gweledol i wneud eich gwefan yn berffaith. Mae WordPress yn caniatáu i chi ychwanegu CSS cyfaddas a gweld yn syth sut beth yw’r newidiadau i’ch gwefan. Mae’r rhagolwg byw yn caniatáu i chi weithio’n gyflym heb fod adnewyddu tudalennau yn eich dal chi nôl.
Rhagolwg Lluniau Bach PDF
Mae rheoli eich casgliad o ddogfennau yn haws yn WordPress 4.7. Bydd llwytho ffeiliau PDF yn creu llun bach fel bod modd gwahaniaethu rhwng eich dogfennau.
Y Bwrdd Gwaith yn eich iaith
Dyw’r ffaith bod eich gwefan mewn un iaith ddim yn golygu fod yn rhaid i bawb sy’n ei rheoli defnyddio’r iaith honno ar gyfer eu gweinyddu. Ychwanegwch ragor o ieithoedd i’ch gwefan a bydd dewis iaith y defnyddiwr yn ymddangos ym mhroffil defnyddwyr.
Diwedd Bwyntiau Cynnwys REST API
Mae WordPress 4.7 yn cynnwys diwedd bwyntiau REST API ar gyfer cofnodion, termau, defnyddwyr, meta a gosodiadau.
Mae diwedd bwyntiau cynnwys yn darparu mynediad allanol darllenadwy gan beiriant i’ch gwefan WordPress, gyda rhyngwyneb safonol, clir, sy’n agor y ffordd ar gyfer ffyrdd newydd ac arloesol o ryngweithio gyda gwefannau drwy ategion, themâu, apiau a mwy. Barod i gychwyn ar ddatblygu? Darllenwch ragor am REST API.
Mwy fyth o Hapusrwydd i Ddatblygwyr 😊
Templedi Mathau o Gofnodion
Drwy agor allan swyddogaethau templedi tudalennau ym mhob math o gofnodion, mae gan ddatblygwyr themâu mwy fyth o hyblygrwydd gyda hierarchaeth templedi WordPress.
Rhagor o Ddanteithion API Themâu
Mae WordPress 4.7 yn cynnwys swyddogaethau, bachau ac ymddygiadau newydd ar gyfer datblygwyr themâu.
Gweithredoedd Lluosog Cyfaddas
Tablau rhestru, nawr yn cynnwys mwy na golygu a dileu lluosog.
WP_Hook
Mae’r cod sy’n sylfaen i weithredoedd a hidlau wedi eu gwella a’u moderneiddio, gan gywiro gwallau ar hyd y daith.
API Cofrestru’r Gosodiadau
Mae register_setting()
wedi ei wella i gynnwys math, disgrifiad, a gwelededd y REST API.
Cyfaddasu Setiau Newid
Mae cyfaddasu setiau newid yn creu newidiadau parhaol yn y cyfaddaswr, megis awtogadw drafftiau. Mae nhw hefyd yn golygu bod nodweddion newydd cyffroes fel cynnwys cychwynnol, yn bosib.