Dyma sleidiau fy sgwrs ar brosiect @DyddiadurKate. Dwi’n ei rannu efo’r ymwadiad mai rhan o gyflwyniad llafar ydi o, ond plis mwynhewch y linc, porwch y ffynonellau a dilynwch @DyddiadurKate ar twitter!
I’r rhai sy’ ddim isie edrych trwy sleidiau, dyma gwpwl o’r linciau:
- Cyflwyniad i Kate gan Elen Phillips, Curadur yn Sain Ffagan
- Blog y prosiect
- Cronfa Gasgliadau’r Rhyfel Mawr
- Papurau Newydd y Llyfrgell Genedlaethol
- Rhaglen Ddigwyddiadau Cymru’n Cofio
- Rhestr twitter: rhwydwaith twitter Amgueddfa Cymru
- Traethawd Rhodri ap Rhian ar sut i feithrin gofodau digidol uniaith gymraeg
Os oes adborth gennych chi am y prosiect, neu os hoffech chi wybod rhagor, mae croeso ichi gysylltu â fi trwy @sara_huws neu trwy [enw].[cyfenw] @ amgueddfacymru.ac.uk
Diolch i bawb ddaeth heibio, i’r siaradwyr am eu cyfraniadau, ac yn arbennig i dîm haciaith am greu gofod diddorol a hefyd am eu cwmni, dwi wedi fy ysbrydoli!
W, a Dydd Rhyngwladol Menywod hapus iawn i chi gyd ar gyfer yfory 🙂
Wirioneddol ddrwg gennai golli’r cyflwyniad – cael syniad da iawn o’r broses tu ôl i’r prosiect ar y sleidiau google – edrych mlaen i drafod mwy yn fuan!