Mae’r fersiwn diweddaraf ar gael un ai drwy fwrdd gwaith eich gwefan fydd yn eich annog i ddiweddaru neu o wefan Cymraeg WordPress.
Mae WordPress yn dilyn cylch ryddhau fersiwn newydd bod 3-4 mis ac felly’n cynnig cyfle i gynnig nodweddion newydd yn ogystal â chynyddu’r diogelwch. Cofiwch ddiweddaru i’r fersiwn diweddaraf er mwyn sicrhau diogelwch eich gwefan!
Cafodd 136 enghraifft o WordPress 4.0 Cymraeg eu llwytho i lawr – ymlaen i’r 150 gyda 4.1!
Dyma’r blyrb swyddogol:
Thema Twenty Fifteen
Mae Twenty Fifteen, ein thema rhagosodedig diweddaraf, yn thema ar gyfer blogiau gyda’r pwyslais ar eglurder. Mae gan Twenty Fifteen gefnogaeth iaith difai, gyda chymorth gan deulu ffontiau Google Noto. Mae’r deipograffeg yn ddarllenadwy ar sgrin o unrhyw faint. Eich cynnwys sydd bwysicaf, p’un ai i’w weld ar ffôn, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur desg.
Ysgrifennu heb darfu
Weithiau mae angen canolbwyntio er mwyn troi eich syniadau’n eiriau. Nawr mae modd defnyddio’r modd ysgrifennu heb darfu. Wrth gychwyn teipio bydd pob unrhyw darfu’n dod i ben, gan eich galluogi i ganolbwyntio’n unig ar gyfansoddi. Bydd yr offer golygu’n ymddangos yn syth pan fydd eu hangen.
Y Manylder
Dewis iaith
Ar y o bryd, mae WordPress 4.1 eisoes wedi ei chyfieithu i 44 iaith, gyda rhagor ar eu ffordd. Mae modd newid i unrhyw gyfieithiad yn y sgrin Gosodiadau Cyffredinol.
Mewnblaniadau Vine
Mae mewnblannu fideos o Vine mor syml â gludo URL ar ei linell ei hun mewn cofnod. Gw. y rhestr lawn o fewnblaniadau sy’n cael eu cynnal.
Allgofnodi ym mhobman
Os ydych erioed wedi pryderu eich bod wedi anghofio i allgofnodi o gyfrifiadur rydych yn ei rannu, mae modd i chi fynd i’ch proffil ac allgofnodi ymhobman.
Argymell ategion
Mae’r gosodwr ategion yn awgrymu ategion i chi eu profi. Mae argymhellion yn seiliedig ar yr ategion rydych chi ac eraill wedi eu gosod.
O Dan y Clawr
Ymholiadau Cymhleth
Mae ymholiadau metadata, dyddiad a thermau nawr yn cynnal rhesymeg amodol uwch, fel cymalau nythol a gweithredwyr lluosog — A AND ( B OR C )
.
API cyfaddaswr
Mae’r API JavaScript estynedig yn y cyfaddaswr yn galluogi profiad cyfrwng newydd yn ogystal â rheolyddion, adrannau a phaneli dynamig a chyd-destunol.
<title>
tag mewn themâu
Mae add_theme_support( 'title-tag' )
yn dweud wrth WordPress sut i drin cymhlethdodau teitlau dogfennau.
Cyfeiriadaeth Datblygwr
Mae’r gwelliant parhau mewn dogfennaeth cod ar-lein yn gwneud y gyfeiriadaeth datblygwr yn fwy cyflawn nag erioed.