Mae gosodiad iaith cynnwys yn nodwedd bwysig ar eich porwr (e.e. Firefox, Chrome).
Dw i wedi bod yn edrych at ddata yn ystod hanes y wefan Hacio’r Iaith ers Ionawr 2010, sy’n ymddangos bod 53% o ymweliadau yn ffafrio Saesneg UDA – yn ddiarwybod i’r rhan fwyaf dw i’n credu. Mae 29% yn ffafrio Saesneg Prydain Fawr.
Dim ond 10% (cy a cy-gb) sydd yn dewis Cymraeg.
Rhif | Cod iaith | Nifer o ymweliadau | Cyfran |
1. | en-us | 21,718 | 53.48% |
2. | en-gb | 11,794 | 29.04% |
3. | cy | 2,181 | 5.37% |
4. | cy-gb | 1,976 | 4.87% |
5. | en | 1,754 | 4.32% |
6. | ru | 164 | 0.40% |
7. | en_gb | 129 | 0.32% |
8. | pt-br | 113 | 0.28% |
9. | fr | 72 | 0.18% |
10. | de-de | 63 | 0.16% |
Y cynnwys rydych chi’n derbyn yw’r testun trafod yma, nid y rhyngwyneb. Mae’r dewis Saesneg yn golygu bod lot o wefannau yn rhagosod Saesneg drostoch chi. Dyma un rheswm pam mae ystadegau am ddefnydd o wasanaethau Cymraeg ar-lein mor isel (dim ond un rheswm). Mewn achosion lle mae pobl eisiau Cymraeg, dydy’r ystadegau ddim yn adlewyrchu galw o reidrwydd.
Fel arfer en-us neu en yw’r diofyn (gan gynnwys rhai o borwyr sydd ddim yn cynnig y dewis o gwbl). Felly mae’r ffigur en-gb yn ddiddorol achos mae’n golygu bod rhywun wedi bwriadu gwneud y dewis. Efallai taw sefydliadau Cymreig sy’n gyfrifol am rai o’r ymweliadau hynny?
Mae gwefan Hacio’r Iaith yn uniaith Gymraeg heblaw am un tudalen ac ambell i ddyfyniad. Dw i’n cymryd bod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn deall Cymraeg er bod eraill yn defnyddio Google Translate ayyb.
Ta waeth, heblaw am yr ystadegau doedd dim ystyriaeth gan ein system o ddewis iaith y porwr – hyd at heddiw.
Os nad ydych chi wedi gosod Cymraeg fel eich hoff iaith rydych yn gweld neges a fideo ar wefan Hacio’r Iaith fel yr un uchod. Mae Ffrwti wedi gosod yr un ategyn. Dw i’n rhedeg y cod fel arbrawf ar hyn o bryd. Ydy pobl yn cytuno bod e’n syniad da?
Yn fy marn i byddai hi’n neis tasai’r porwr yn gofyn i chi am ddewis iaith ar y tro cyntaf. Hefyd dylai sefydliadau yng Nghymru gwneud mwy i barchu dewis iaith defnyddwyr a gweithwyr.
Mae’r ategyn ar gael i gyhoeddwyr gwe eraill ar wefan Dechnolegau Iaith Prifysgol Bangor. Diolch iddynt am eu holl waith.
Dyma ystadegau Ffrwti ers cychwyn:
en-us — 15475 — 49.39
en-gb — 13016 — 41.54
cy-gb — 875 — 2.79
cy — 590 — 1.88
eu — 517 — 1.65
en — 386 — 1.23
es — 83 — 0.26
es-es — 51 — 0.16
pt-br — 45 — 0.14
en_gb — 41 — 0.13
(Nifer sesiynau yw’r golofn ganol)
Hyd yn oed llai. Be am ddod nol diwedd Awst a chymharu mis Awst efo mis Gorffennaf i weld os oes unrhyw newid oherwydd yr ategyn.
Falle bod o’n annoying i bobl ddi-Gymraeg sy’n dod i’r wefan (ac hefyd annealladwy – does dim esboniad Saesneg i’r pop-up). Roedd y fersiwn Catalaneg o hyn sef Catalanizador yn defnyddio graffeg bach ar draws top y sgrin yn hytrach na pop-up mawr a falle byddai hynny’n fwy addas.
Yn fwy annoying i bobl ddi-Gymraeg na’r cynnwys arferol?! Dw i’n credu bod rhai yn defnyddio Google Translate yn enwedig y rhai ar Chrome.
Tybed os oes mwy ar symudol ar Ffrwti? Dw i ddim yn meddwl bod dewis o gwbl ar rhai systemau?
Ymwelwyr i Hacio’r Iaith o ran system weithredu:
Windows—19,974—49.18%
Macintosh—10,394—25.59%
iOS—3,347—8.24%
Android—2,302—5.67%
Linux—1,659—4.08%
iPhone—1,607—3.96%
iPad—621—1.53%
(not set)—334—0.82%
BlackBerry—170—0.42%
iPod—65—0.16%
Dylen ni i gyd trafod popeth yn y dafarn yn Steddfod yr wythnos nesaf. Dangos dy stats!
Dyw en-gb ddim yn golygu o angenrheidrwydd fod rhywun wedi gwneud y dewis. Os ydych chi’n gosod Windows (a systemau eraill mae’n siwr) a dewis en-gb fel locale mi fydd hynny yn cael ei roi mewn i IE. Ac wrth ddefnyddio IE i gael copi o borwr arall mae’n debygol y fydd gwefannau hynny yn gweld y dewis iaith ac ail-gyfeirio at fersiwn en-GB yn lle en-US.
Dw wedi gosod iaith fy mhorwr i cy ers dros 16 mlynedd a dwi ddim yn gweld y manteision o ran defnydd y Gymraeg ar lein achos mae’n golygu fod rhaid i *bob* gwefan amlieithog Cymraeg/Saesneg addasu eu cod i adnabod y dewis iaith a ail-gyfeirio mewn rhyw ffordd gall.
A dyw e ddim mor syml a hynny – mae’n creu pob math o gymlethdodau. Os ydw i yn chwilio ar gwgl am rhyw eiriau penodol ac yn cyrraedd tudalen saesneg sy’n cynnwys y geiriau, a fydden i eisiau cael fy ail-gyfeirio yn awtomatig i’r fersiwn Gymraeg (na fyddwn, ond fe fyddai dolen ‘Cymraeg’ at dudalen sy’n cyfateb yn union i’r dudalen Saesneg yn ddefnyddiol – nid pob gwefan sy’n gallu gwneud hynny yn gywir).
Os ydw i’n teipio parth dwyieithog i fewn e.g. http://www.wales.gov.uk hoffwn i weld y fersiwn saesneg a http://www.cymru.gov.uk – hoffwn i weld y Gymraeg. Dwi ddim eisiau iaith y porwr i ddewis wedyn. Fel mae’n digwydd mae wales.gov.uk yn gorfodi fi ddewis iaith eto er mod i wedi nodi hynny ddwywaith (drwy iaith y porwr a fy newis o URL).
Beth am wefan gyda un parth yn unig – mae hyn yn symlach; mi fyddai’n bosib defnyddio iaith y porwr i ddewis iaith yn lle tudalen ‘sblash’. Ond os dwi’n dilyn dolen dwfn o wefan arall, fasen i ddim eisiau cael fy ail-gyfeirio.
Mae’r dewisiadau hyn i gyd yn gorfod cael eu dewis a’i codio yn ôl beth sy’n addas i bob gwefan. Er bod hi’n ‘neis’ gallu gosod iaith y porwr mae’r gwaith pwysicach i wneud o ran dylunio gwefannau dwyieithog – sicrhau fod y dewis iaith mewn lle amlwg ar frig y dudalen a fod y newid iaith yn gweithio’n uniongyrchol.
Do’n i ddim yn gwybod bod hi’n posib i rhoi yr ieithoedd mewn trefn – nes i ychwangenu Cymraeg on ddim symud i’r brig!
Da iawn, ydy e’n bosib ychwanegu’ ategyn hwn at flog ar wordpress?
Nac ydy os wyt ti’n sôn am wordpress.com