Daeth y newyddion trist heno bod Arfon Rhys wedi marw ar ôl salwch byr yn 72 mlwydd oed.
Des i adnabod Arfon trwy ddigwyddiadau Hacio’r Iaith ac roedd yn bleser cael ei gwmni hawddgar ar sawl achlysur i drafod sut oedd modd gwneud y defnydd gorau o ddatblygiadau technoleg newydd. Daeth atom yn llawn brwdfrydedd ac awch i ddysgu mwy am sut gallai ddefnyddio’r dechnoleg ar gyfer defnydd personol, ond fwy na hynny fel arf ymgyrchol dros yr iaith Gymraeg, a thros heddychiaeth drwy Gymdeithas y Cymod. Cefais yr argraff o ddyn oedd, mewn ffordd gwbl ddi-rodres, yn benderfynol o archwilio a defnyddio pob dull oedd ar gael iddo i newid y byd o’i gwmpas er gwell.
Gallwch ddarllen ei flog personol Heddwch a Chyfiawnder am ei waith fel Cadeirydd Cymdeithas y Cymod a’r blog Cadw Rhandir sy’n adrodd hanes cymuned Groeslon yn datblygu rhandir tyfu llysiau.