“Sut alla’i ennill bach o bres i gadw mynd?” – dyna’r cwestiwn mawr sy’n herio perchnogion gwefannau lleol (hyperlocal)
Dros y blynyddoedd, dwi wedi bod yn arbrofi gyda ‘dolenni cildwrn’ (affiliate links). Mae hyn yn ffordd o arddangos cynnyrch a gwasanaethau cwmnïau eraill ar eich gwefan chi. Os bydd un o’ch ymwelwyr chi yn prynu, mae’r cwmni mawr yn danfon cildwrn atoch chi – dim ond ychydig geiniogau.
Ffrwd o ddolenni recordiau finyl Cymraeg ar Twtlol.co.uk oedd y gyntaf:
http://twtlol.co.uk/trysorau
Am fod yr arholiadau yn bwysig yn y cartref hwn ar hyn o bryd, dyma fi’n mynd ati i gasglu llyfrau adolygu TGAU at ei gilydd fesul pwnc:
http://tgau.co.uk/
Mae’n rhatach weithiau i brynu’r llyfrau o eBay a dwi’n bwriadu cyflwyno cyngor adolygu ar y wefan pan ga’ i amser.
Os ydych chi am wneud rhywbeth tebyg gydag eBay ar eich gwefan WordPress, penderfynwch ar y niche dych chi am ganolbwyntio arni, wedi dilynwch y camau hyn:
1. Ymaelodwch gyda’r Ebay Partner Network https://www.ebaypartnernetwork.com
2. Ewch i tab Campaigns, wedyn Create a new campaign
3. …dryw gwneud hyn, dych chi’n cael rhif sy’n dangos i eBay pwy dych chi
4. Ewch i Tools > Widgets > RSS Feed Generator
5. Dewiswch Program (.co.uk); y Campaign ID dych chi newydd greu; categori ac allweddeiriau; llenwi’r gweddill; Generate Code
6. copïwch y cod ar eich clipfwrdd
Wedyn ewch i adran Admin eich WordPress a mewnosod y teclyn HungryFeed http://verysimple.com/products/hungryfeed/. Mae hyn yn eich galluogi i fewnosod RSS mewn Post WordPress.
Ysgrifennwch Bost neu Dudalen newydd, cliciwch symbol HungryFeed a gludo’r cod EPN o’r clipfwrdd i’r blwch. Safiwch y dudalen a chael cipolwg arni cyn cyhoeddi.
A dyna ni. Pob tro bydd rhywun yn prynu eitem ar eBay drwy ddilyn linc o’ch gwefan chi, bydd eBay yn talu cildwrn bach i chi. Dydy hyn ddim yn ffortiwn, ond mae’n gam bach tuag at fod yn fwy cynaliadwy.
Gwych, mae ymdrech i greu cyfres o ganllawiau ar http://hedyn.net/wici/Categori:Canllawiau
Mae croeso i ti ychwanegu tudalen gyda’r stwff uchod. Mae angen mwy o stwff yn Gymraeg am sut i wneud arian ar-lein!