Yn ôl yng nghôl yr Haclediad y tro hwn mae Sioned, a bydd Bryn ac Iestyn yn ei chroesawu nôl efo cipolwg ar Windows 8 – y dyfodol neu ddymchwel i Microsoft? Hefyd byddwn yn sbïo dros aps newydd geiriadur a bysellfwrdd Cymreig ffab i’ch ffonau a rhestr Nadolig yr Hacledwyr, be da ni am weld yn yr hosan yna ddiwedd mis Rhagfyr? Byddwn hyn edrych mlaen yn ogystal i ddigwyddiad y flwyddyn – Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, byddwch yn barod gyda’ch pasbortau i ddod lan/lawr i Aberystwyth!
Dolenni
- Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron
- Drunk Jennifer using Microsoft Windows 8
- Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle
Rhestr Siopa Nadolig Yr Haclediad
Sioned
- Mam – Nook a’r gallu i gael llyfrau Cymraeg arno 😉
- Dad – Kindle Fire HD i ddarllen/gwylio stwff ar wenyna (a chware tetris ac ebay!)
- Brawd / Chwaer – Wii U i @OsianLlew, d’io methu aros
- Rhywun Arbennig – Xbox 360 (“an oldie but a goodie”)
- Dy hyn – Macbook Air (dim ‘mynedd efo tabledi ar hun o bryd!)
Bryn
- Mam – Dim!
- Dad – Dim!
- Brawd / Chwaer – Dim!
- Rhywun Arbennig – Dim!
- Dy hyn – Canon 5D MkIII
Iestyn
- Mam – iPad mini / Kobo Glo (os mond i ddarllen)
- Dad – Blackmagic Cinema Camera
- Brawd / Chwaer – Nocs Headphones
- Rhywun Arbennig – Gwyliau mewn gwlad poeth lle does na ddim technoleg
- Dy hyn – Nike Fuelband neu Jawbone Up?