Cefais y fraint o gynnal gweithdy App ym mhabell Haciaith yn Eisteddfod 2012, ac o’r diwedd mae’r ffeiliau ar gael ar-lein.
Dwi wedi penderfynu defnyddio Github i’w cyhoeddi. Mae Github yn wefan sy’n darparu gwasanaeth Version Control. I chi di-geekwyr mae hon yn system tebyg i Undo mewn dogfen, ond ar gyfer projectau sy’n cynnwys degau, cannoedd neu filoedd o ffeiliau.
Penderfynais i’w cyhoeddi rwan, a gwella arnynt dros y dyddiau ac wythnosau nesaf, felly ymddiheuriadau eu bod ychydig yn denau.
Mae’r ffeiliau Javascript yna i gyd, a byddaf yn ychwanegu atynt gyda esboniad i bob gwers.
Ar hyn o bryd, mae croeso i ti ofyn am help ar twitter @meigwilym neu drwy Github ei hun, os oes gen ti gyfri.
Os wyt ti am gynnig gwelliannau, yna gwna pull request!
Byddai’n falch iawn i glywed unrhyw awgrymiadau new welliannau.
Diolch Mei.
Dw i’n hoffi’r cysyniad tu ôl i Git/Github ond ces i drafferth gyda phrosiect arno fe eleni. Dw i angen mwy o ddefnydd.
Tria <a href="https://help.github.com/articles/create-a-repo"tudalennau cymorth ar Github, mae nhw’n le gret i ddechrau.
Wps! dyma ni https://help.github.com/articles/create-a-repo
Diolch ond dw i’n meddwl fy mod i’n deall y damcaniaeth(au) ac yn gallu creu repo ayyb. Canghennau gyda sawl cyfrannwr oedd yr heriau… Roedd y llinell gorchymyn yn haws na’r GUIs!