Cadwch y 30ain o Fehefin 2012 yn rhydd, gan y bydd golygathon y Wicipedia Cymraeg yn digwydd yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd.
Beth yw Golygathon?
Cyfle i bobl ddod at ei gilydd mewn un man i greu neu wella erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg, sef gwyddoniadur arlein y gall unrhyw un ei olygu. Mae’n gyfle i rannu syniadau a chydweithio ac hefyd i gwrdd a chyfranwyr eraill. Mae croeso arbennig i bobl sydd erioed wedi golygu’r Wicipedia o’r blaen – byddwn yn falch iawn o roi cymorth i chi ar sut mae gwneud hyn.
Pa fath o erthyglau?
Ffocws y prif bwrpas y digwyddiad yw gwella’r erthyglau am Gaerdydd a’i phobl ar y Wicipedia Cymraeg. Gall hyn gynnwys ardaloedd o’r ddinas, hanes, adeiladau neu sefydliadau nodedig, enwogion o wahanol feysydd o’r gorffennol hyd at y presennol.
Pam y Llyfrgell Ganolog?
Mae’n leoliad cyfleus iawn, gydag ystafell TGCh wedi ei chadw ar ein cyfer ac mae Wifi am ddim drwy’r adeilad. Byddwn hefyd yn gallu manteisio ar y casgliadau o lyfrau Cymraeg a’r Astudiaethau Lleol sydd i’w cael yno.
Dw i eisiau bod yna!
Er mwyn rhoi syniad i ni faint i’w ddisgwyl ar gyfer lle yn yr ystafell TGCh a faint o luniaeth i’w archebu, baswn i’n gwerthfawrogi petaech chi’n nodi eich enw ar y wici, a/neu’n nodi syniadau am erthyglau yma. Os nad ydych yn hyderus ar olygu’r wici eto, croeso i chi adael sylw yn y blwch isod, neu fy ebostio i ar y cyfeiriad ebost yn y poster uchod.
Yay!
Sa’n wych tase mwy o’r rhain yn cael eu cynnal dros Gymru. Ma wir angen i Wicipedia fynd allan at bobol os mae am gadw’n berthnasol a chynyddu erthyglau a defnyddwyr.
Ni’n gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau tebyg. Mae un neu ddau cyfranwr cyson wrthi’n roi cryn dipyn o ymdrech tu cefn i ehangu proffil Wicipedia. Rydym wedi llunio Cynllun Datblygu uchelgeisiol ar gyfer 2012-13 sydd i’w weld yma (croesawn fewnbwn)
Dechrau yng Nghaerdydd gan mai dyna ble ydw i a bod cnewyllyn o gyfranwyr yn byw yn lleol, a wedyn gweld sut eiff hi. Mae ambell gyfranwr yn Aberystwyth dw i’n credu. Er cymaint dw i’n edrych mlaen i digwyddiad y steddfod, mae cael diwrnod llawn penodol y fwy tebygol o esgor ar waith newydd. Ceisiais ‘pigibacio’ ar gefn digwyddiad Tafwyl, ond yn ofer, gan nad oedd y llyfrgell ar gael pryd hynny, ond roedd Llyfrgellydd Cymraeg y Llyfrgell Ganolog yn gefnogol tu hwnt.
Cefais yr ysbyrdoliaeth o editathon i’r wiki Bagseg i gyd fynd a gwyl lyfrau mawr Durango y llynedd.
Dwi wedi bod yn defnyddio rhywdweithiau cymdeithasol a personol i hyrwyddo’r digwyddiad, ac fe arianodd Wikimedia UK y gost o gynhyrchu a phostio llythyr ar pob papur bro (sy’n job drud o ystyrid pris stamp!) Tydy’r llythyr hyn ond wedi arwain at un ymateb drwy ebost i mi, ond beth oedd yn galonogol oedd bod y person hynny hefyd yn ymwneud a Chymdeithas Cymru-Ariannin, sy wedi rhoi syniad am brosiectau eraill ar y cyd (e.e. cydweithio gyda Cymdeithasau Cymru-Llydaw, Cymru-Ciwba, Cymru-Nicaragua ayyb)
Os caf gyfle, ceisiaf gysylltu ag addoldai Cymraeg y ddinas er mwyn denu cyfrannwyr cyffredinol ac efallai i son am hanes eu capeli/eglwysi – sgin pob un ddim cyfeiriad e-bost, felly os oes rhywun yn aelodau, allwch chi gysylltu a mi neu fy helpu i hyrwyddo?
Fel rhywun sydd â chyfrif ond erioed wedi creu/golygu tudalen Wicipedia, oes na restr o dudalenau/pynciau penodol fyddwch yn hoffi gyflawni/gyflenwi?
Wel, mae rhestrau Erthgylau sydd eu hangen a Rhestr erthyglau sy’n angenrheidiol ym mhob iaith yn bodoli (y rhai coch sy’n dal ar goll), ond i ddweud y gwir, dwi ddim yn siwr pwy luniodd y rhestrau – mae’r ail un wedi ei gopio o ieithoedd eraill a pwy sydd i ddweud eu bod yn flaenoriaeth i ti/fi/ni?
Fy nghyngor i fyddai dechrau wrth dy draed e.e. ehangu ar neu llenwi bylchau am Gymunedau Môn (neu daearyddiaeth neu bobl yr ynys), neu beth sy ar goll am Gaergybi (adeiladau arbennig – hen dafarn hanesyddol, maes pel-droed, )
Ffordd hawdd o greu erthygl yw copio a chyfieithu cynnwys o un Saesneg, ond weithiau mae’n neis creu rhywbeth unigryw yn Gymraeg.
Os ti’n dynnwr lluniau, beth am rannu dy luniau yn y Comin, neu o leiaf eu huwchlwytho ar Geograph neu at Flickr gyda trwydded sy’n caniatau i eraill eu haildefnuddio?
Gol.
Hefyd, mae erthyglau am bel-droed angen lot o sylw, e.e. Cymdeithas Pel-droed Cymru, Y Tim Cenedlaethol, cystadlaethau (megis Euro 2012 a Chwpannau’r Byd.). Gyda’r rhain, mater o ehangu, unai drwy ymchwil dy hun neu drosi o’r Saesneg. Fel dw i wedi nodi, sdim rhaid i’r cynnwys fod yn run fath o’r wici Saesneg, ac un peth sy ar goll yno, ac yma hefyd, ydy erthyglau unigol am feysydd pel-droed Uwchgynhrair Cymru – basia’n neis i ni arwain y ffordd gyda phethau felly?
Dwi hefyd wedi ildio i’r ochr dywyll a chreu Digwyddiad Facebook ar gyfer y diwrnod. Nododd rhywun na allith weld botwn ‘hoffi’ yna a sgynna i ddim syniad sut mae gwneud hwn.
Os dach chi’n ddefnyddiwr Facbook ac eisiau helpu hyrwyddo’r diwrnod, mae botwm ‘Rhannu ar Facebook’ i’w wasgu ar waelod y dudalen yma.
Gwych – mi na’i fwrw ati!
Beth ydi’r drefn gyda treiglo wrth olygu Wicipedia?
e.e. wrth sôn am Gymdeithas Bêl-droed Cymru mae’n amhosib i mi roi [[Gymdeithas Pêl-droed Cymru]] yn hytrach na [[Cymdeithas Pêl-droed Cymru]] …
Mae’r wiki fel taisai o wedi ei ddylunio yn arbennig ar gyferi treiglo!
Mae’r cod yn gweithio fel hyn: [[Enw’r erthygl|Be ti’n weld]], felly yn yr enghriafft yma, rho [[Cymdeithas Pêl-droed Cymru|Gymdeithas Pêl-droed Cymru]].
(gweld bod ti di sorio hyn yn barod rwan!)
Gyda rhai enwau lleoedd, dan ni wedi creu re-directs, e.e. ar gyfer [[Nghaerdydd]] (gweler)
Wedi rhoi hysbys i hwn neithiwr ar y radio ac wedi darllen y Cynllun Datblygu Wicipedia – ma’n blincin gwych! Dwi’n cymryd fy ngeiriau uchod nol. Do’n i jest ddim yn ymwybodol bod hyn yn digwydd.
Ella’n syniad cael cyfrig Twitter Wicipedia sydd jest yn trafod datblygiad Wicipedia yn hytrach na phostio dolenni i gynnwys? Haws i gadw i fynd na blog am ddatblygiadau debyg.
Syniad gwych!
Dwi’n trio cael fy mhen rownd infoboxes ar y funud – ddim cweit wedi ei ddeall eto, ond dim ond rwdlan yn fy awr ginio oeddwn i gyna!!
@Rhodri
Os ti am adael sylw ar y Cynllun, gwna ASAP, achosmae ar fin cael ei gyflwyno i WikiMediaUK. Sdim dyddiad cau amlwg arno, ond cyhoeddodd Llywelyn2000 bod ar fin ro’i adroddiad trefynl at ei gilydd yn y dydd neu ddau nesaf.
“Ella’n syniad cael cyfrig Twitter Wicipedia sydd jest yn trafod datblygiad Wicipedia yn hytrach na phostio dolenni i gynnwys? Haws i gadw i fynd na blog am ddatblygiadau debyg.”
Syniad da.
@blogdroed
Mae gwybodlenni yn gallu cymryd crym amser i ddo i’w dallt (dw i dal ddim 100%).Peth gorau ydy trio copio nhw o erthygl cyffelyb am yr un pwnc, a newid manylion – ond mae yna lot o hyd a llderith.
Ti’n iwn – methu dygymod â nhw o gwbwl!
@blogdroed
Dwed beth ti’n droi’i wneud., unai yma, ar fy nhudalen sgwrs, neu gorau oll yn Y Caffi (yno mae’r golygwyr profiadol yn cadw llygad allan am gwestiynnau tebyg ac yn fwy na pharod i helpu)
Gyda llaw
#cywiki yw’r tag ar Twitter
cywiki yw’r tag ar YouTube, blogiau, Flickr ayyb