Dw i ddim yn swir ers faint mae wedi bod yna, ond wrth fewngofnodi i fy nghyfrif Delicious heddiw, mae neges ar y top (sydd ddim yn amlwg iawn) yn dweud:
To continue using Delicious, you must agree to transfer your account information to AVOS by Friday, September 23, 2011.
Wrth drosglwyddo gwybodaeth eich cyfrif drosodd at AVOS rydych yn cytuno gyda eu telerau gwasanaeth a’u polisi preifatrwydd.
Y peth pwysig i’w sylweddoli ydy, os nad ydych yn cytuno i drosglwyddol’r wybodaeth yma erbyn y 23ain o’r mis yma, gallwch golli eich nodau tudalen i gyd. Does yna ddim byd anarferol yn eu telerau a’u polisi preifatwydd hyd y gwela i, er, yn y telerau, mae awgrym y gall AVOS godi am y gwasanaeth yn y dyfodol:
We may make Modifications or Changes
AVOS may, its sole discretion, choose to modify, discontinue or terminate the Service or to modify these Terms, at any time and without prior notice. Currently, you may access and use the Service without charge. However, we may add premium services in the future which may be accessible for a fee
Mae Delicious yn wych. Paid ag anghofio allforio hefyd. (Settings | Bookmarks | Export) Mae fy ffeil yn 1.6Mb!
(Dyma fy nolenni.)
Ategyn newydd ar gyfer Chrome
https://chrome.google.com/webstore/detail/mnaelnkmidnndgikjbiifihgklnocljd
Beth wyt ti’n feddwl o’r gwasaneth newydd?
Dwi’n gweld eisiau’r nodwedd “network”. Yn ôl y blog mae nhw am ei roi nôl cyn boi hir. Hwn oedd un o’r pethau gorau am Delicious pori dolenni dwetha y bobol dwi’n dilyn.
Heb drio ffidlan efo Stacks eto…ddim yn siwr os dwi di ffurfio barn os dio’n well neu beidio eto.
Dw i’n hapus bod yr un pethau syml – cadw dolen, tagio – wedi cael eu sicrhau!
Dyw Stacks ddim yn cystadlu gyda phethau fel Tumblr yn fy marn i… gawn ni weld. Dyddiau cynnar.