Croeso i ail rifyn yr Haclediad, ydan, da ni wedi mentro creu un arall, ys dywed y kids, be da ni fel?!
Wele Haclediad #2.
Unwaith eto mae Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn trafod tech a’r byd Cymreig.
Buom ni’n trafod:
- “2.9 Million Enemies in 45 minutes” – Jeremy Hunt yn dweud bod Cymru ddim yn cael ei adael allan o’r cynlluniau band eang uwch-gyflym. Ond yn wir, ‘dyw Cymru ddim yn y treial. Yw hi’n amser nawr i’r cynulliad gael cyfrifoldeb am hwn? Beth am fynediad band-llydan yng Nghymru?
- Hefyd, ydi’r ymgyrch parth .cym yn ddibwys a’i gymharu gyda’r ymgyrch sy angen ar gyfer band eang yng nghefn gwlad?
- Windows 7 Series phone, hands on, be di’r farn?
- Ydi hi’n hen bryd i ni weld fwy o e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle ag iBooks? A beth am y term “eLyfr?” ydi o’n gwneud synwyr?
- Tamaid i orffen: Gwefan Tywydd newydd S4C – beth yw’r farn?
- Diolch eto i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com.
Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar podlediad@haciaith.cymru, neu drwy drydar.
[display_podcast]
Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi!
Criw’r Haclediad
Gyda llaw, pam ebost? Dylen ni annog adborth cyhoeddus – os bosib wrth gwrs!
Fy adborth yw: da iawn, gwych!
Blydi briliant o bodlediad. Y darn am fandllydan a ffonau Windows yn arbennig o dda. Dwi di dysgu lot am fibre optics!
“Dark fibre” ma nhw’n galw rhoi gwifrau ffibr opteg trwy systemau carthffosiaeth. Cychwynodd gyda Dŵr Cymru yn rhedeg gwifrau ffibr opteg i siediau yng nghanol caeau ar gyfer ei system monitro a negesu. Yr oedd y mwyafrif o’r ffibrau ma’n gwneud dim ac yn rhedeg trwy’r systemau carthffosiaeth.
Cychwynodd y cwmni H2O Networks gwneud hyn o Lanelwy. Yn biti mae bellach wedi ei brynu gan gwmni Grŵp i3. http://www.h2o-networks.com/