O datganiad y wasg S4C
Y TYWYDD YN TORRI TIR NEWYDD AR S4C
Ar y 1af o Dachwedd bydd S4C yn lansio gwasanaeth tywydd newydd sbon fydd yn torri tir newydd yn hanes darlledu’r tywydd ar deledu yn y Deyrnas Unedig.
Cwmni cynhyrchu annibynnol Tinopolis o Lanelli fydd yn gyfrifol am gynhyrchu’r gwasanaeth gan weithio ar y cyd â Weather Central, cwmni sydd ar flaen y gad yn fyd-eang am ddarparu gwybodaeth a graffeg tywydd.
Bydd y tim cyflwyno tywydd o dri, Chris Jones, Erin Roberts a Mari Grug yn parhau ar ein sgriniau gan weithio tu ôl i’r llen gyda thechnoleg darogan a graffeg arloesol. S4C yw’r darlledwr cyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud defnydd o system ddarogan 1km unigryw Weather Central, golyga hyn bod modd nesáu at lefel tu hwnt o leol er mwyn darparu rhagolygon manwl a phenodol.
Ynghyd â darparu bwletinau tywydd cyson o bencadlys Tinopolis yn Llanelli bydd bwletinau ar-leoliad o ddigwyddiadau mawr y calendr Cymreig yn rhan o’r patrwm darlledu. Yn ystod tywydd garw bydd bwletinau estynedig yn cael eu darparu. Bydd y gwasanaeth ar y teledu yn cael ei gefnogi gan wefan ddwyieithog newydd, gyda’r manylder darogan 1km yn rhoi gwybodaeth manwl a lleol i ddefnyddwyr y wefan. Nid oes gwefan arall yn y Deyrnas Unedig yn cynnig gwybodaeth ar raddau mor lleol.
Dywedodd Adam Salkeld ar ran Tinopolis:
“Ar wefan newydd gwasanaeth tywydd S4C mae modd rhoi côd post unrhyw leoliad yng Nghymru er mwyn derbyn rhagolygon ar gyfer y stryd honno, y gymuned, tref neu phentref. Bydd hyn yn adnodd gwerthfawr os ydych yn trefnu barbeciw, diwrnod yn yr awyr agored neu os am wybod pryd ddaw’r rhew i amharu’r ardd. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cyflwyno hyn yng Nghymru cyn unman arall.”
Gan siarad ar ran Weather Central, dywedodd Chip Mobley Is-Lywydd y cwmni:“Pan yn ymweld â Chymru rwy’n rhyfeddu at amrywiaeth y tywydd, gall yr haul fod yn gwenu’n braf mewn un pentref yna’n glawio’n y pentref drws nesaf! Dyma un o’r rhesymau pam ein bod mor falch o gydweithio gyda S4C a Tinopolis er mwyn dod a ffordd newydd arlosoel o gyflwyno’r tywydd i Gymru.”
Y wefan
http://tywydd.s4c.co.uk/
Mae gyda nhw cyfrif Twitter a blogiau hefyd.
Beth wyt ti’n meddwl?
Basai ffrydiau yn neis. Hoffwn i sgwennu rhywbeth i gymharu’r data tywydd lleol gyda data eraill ledled Cymru.
Bore da Carl, diolch yn fawr iawn am dy sylw a dy ymateb i wasanaeth newydd y tywydd ar S4C. Cofia os hoffet gyfrannu i’r wefan neu ymateb ymhellach i’r gwasanaeth, cysyllta â ni ar y cyfeiriad yma – tywydd@s4c.co.uk.
O wefan Tywydd S4C:
Pob lwc gyda hynna! Wrth gwrs, mae Open Street Map ar gael yn Gymraeg yn barod (ac AM DDIM gyda llaw.)
Rhys, dylai Cymraeg bod yn flaenoriaeth yn fy marn i.
Elena, diolch am dy sylw a’r cynnig. Ond dw i ddim yn hoffi ebost gymaint – am drafodaeth. Well i ni siarad yn agored a rhannu’r sgwrs gyda phobol eraill yng Nghymru. Croeso i chi dod i’r digwyddiad mis Ionawr hefyd!