Dw i ddim yn awgrymu blogio’n dwyieithog i unigolion, mae’n rhy llafurus.
Ond mae Bryn wedi bod yn wneud e yn llwyddiannus. Mae fe’n sôn am blogio’n dwyieithog yma (clicia baneri am ieithoedd!).
http://www.randomlyevil.org.uk/2010/10/11/ddwyieithog-bilingual/
Darn dw i’n licio (neu ddim yn licio mewn ffordd)
Mae gen i ofn yn aml o’r “snobs ieithyddol” sy’n bodoli yn y Gymraeg, y bobl sy’n gas i chi bod y treigliad ddim yn hollol gywir, neu os bod chi’n defnyddio iaith anffurfiol yn lle iaith ffurfiol. Mae’n peri ofn i mi weithiau, ac yn gwneud fi’n llai tebygol o ysgrifennu rhywbeth cyhoeddus.
Mae’r iaith Gymraeg yn rhy academaidd weithiau. (Er enghraifft, yr ysgolion. Quelle surprise pobol!)