“Programming the Apple iPhone” – darlith gyhoeddus gan yr Athro Chris Price

Yr Athro Chris Price

Yr Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad: Dydd Mawrth 27ain Gorffennaf 2010, 5.30 ar gyfer 6 yr hwyr.
Lleoliad: Canolfan Ddelweddu, Prifysgol Aberystwyth, Campws Penglais

Mae model datblygu ‘apps’ a gwerthu iPhone Apple a’r App Store wedi chwildroi’r diwydiant meddalwedd symudol. Mae’n cynnig amgylchedd sydd wedi ei rheoli ar gyfer datblygiad, marchnata a gwerthiant i ddatblygwyr yr ‘apps’.

Yn y sgwrs hon, sydd wedi ei hanelu at y rhai sydd â rhywfaint o brofiad o ddatblygu meddalwedd, bydd yr Athro Price yn trafod y broses a threfn gwaith dylunio ap ar gyfer yr iPhone, yn ogystal â phrofi a gwerthu. Bydd yn galw ar ei lwyddiant ei hunan o ddatblygu ap iPhone llwyddiannus ac yn trafod rhai o’r problemau all faglu datblygwr ap dibrofiad.

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chofrestru, te a bwffe ysgafn am 5.30 y prynhawn yn y Ganolfan Ddelweddu. Bydd y sgwrs yn dechrau am 6.00 ac yn cloi gyda sesiwn holi a chyfle i rwydweithio.

Trefnir y sesiwn gan yr Adran Gyfrifiadureg, fel rhan o Software Alliance Wales www.softwarealliancewales.com. Cysylltwch â Margaret Walker zzy@aber.ac.uk erbyn y 23ain o Orffennaf os ydych yn bwriadu mynychu er mwyn ein cynorthwyo gyda threfniadau arlwyo.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.