Papurau bro ar y we, angen help

Papurau bro. Dw i’n meddwl amdanyn nhw heddiw.

1. Pa papurau bro sydd ar y we yn barod? Gaf i dolenni plis? Beth wyt ti’n meddwl am eu wefannau?

2. Pa papurau bro sy ddim ar y we eto? Fyddan nhw yn mynd yna gyda help neu fyddan nhw ddim?

3. Fyddan nhw yn defnyddio rhyw fath o wasanaeth CMS hawdd “mas o’r bocs”? e.e.
ydinesydd.rhywbeth.com
yrhwyd.rhywbeth.com
Neu ydy e’n well i gael gwefannau gwahanol?

Sgwenna dy atebion isod fel sylwadau, diolch yn fawr.

Rhanna’r dolen i’r cofnod hwn os ti eisiau.

9 sylw

  1. Dyma’r rhai dw i’n ymwybodol ohonynt:
    Taf Elai (gwefan eu hunain gyda pob rhifyn ar ffurf PDF)
    Y Dinesydd (gwefan eu hunain gyda pob rhifyn ar ffurf PDF – ond mae ‘pay wall’! ers rhifyn mis Ebrill) 🙂
    Glo Man (Blogger)
    Llais Ogwan (gwefan eu hunain – ond nid CMS)
    Eco’r Wyddfa (gwefan eu hunain – ond heb ei ddiweddaru ers y cychwyn)

    Efallai bod mwy, ond dim ond yr uchod sydd a dolenni ar wefan unigol o’u herthyglau ar Wicipedia, er, gall eraill fod a gwefannau, mond nad oes dolen atynt o’u erthygl Wicipedia/does dim erthygl yn bodoli eto – mae angen gwneud ymchwiliad Google.

    O bosib mae’r ffaith bod Cymru’r Byd wedi cynnig is-wefan pitw i bob papur bro wedi gwnedu i ambell un feddwl nad oes angen iddynt drafferthu cael presenoldeb go iawn ar y we na chyheddi eu erthyglau ar-lein.

  2. Ddim yn siwr ble diflannodd fy sylw diwetha, ond yn gyflym, Tafod Elai, Glo Mân, Y Dinesydd, Eco’r Wyddfa a Llais Ogwan (sic), yw’r unig rai dw i’n wybod amdanynt – angen gwglo pob un o’r rhestr.

    Mond un sy’n defnyddio CMS, (a Blogger ydy hwnnw gan Glo Mân). Mae dyluniad y gweddill yn ei wneud yn amhosib bron i gynnwys y newyddion ymddangos mewn chwiliadau Google (PDF’s ayyb).

    Ydy is-wefannau BBC Lleol wedi gwneud i’r papurau bro feddwl nad oes angen presenoldeb ar-lein go iawn?

  3. Mae hwn wedi bod yn troelli yn fy meddwl i ers oes. Dydi o ddim yn gwneud synnwyr i’r holl erthyglau yma fodoli mewn print yn unig pan fo arian cyhoeddus yn cael ei gyfrannu tuag at eu cynhyrchu.

    Yn fy marn i dylid cael un CMS ar gyfer y cwbl, er mwyn gallu dyrchafu straeon sydd hefyd yn berthnasol tu allan i’r broydd yn haws. Haws hyfforddi a rhatach

    Dydi’r BBC ddim yn mynd i allu gwneud hyn ar eu pennau eu hunain, yn arbennig gyda’r toriadau sydd i ddod.

    Rhaid i rywun fuddsoddi mewn dyfodol newyddion lleol Cymraeg. Neu marw wnaiff yr holl waith gyda’r genhedlaetha a’u dyfeisiodd.

  4. Mae’r papurau bro yn anodd. Nid i fod yn annheg, ond mae nhw’n cael eu rhedeg fel cabals lleol gan llond llaw o wirfoddolwyr sy’ wedi arfer gwneud pethe yn eu dull DIY unigryw eu hunain.

    Mi fyddai’n anodd trio cael pawb i gytuno i ddefnyddio ryw system o’r tu allan. Dwi ddim yn meddwl fyddai problem greu fersiwn electronig.. mae pawb ar ebost ac ar y cyfan mae’r testun mewn ffurff electronig. Ond a fyddai hynny yn golygu fwy o waith – mae angen y fersiwn argraffedig hefyd. Mi fyddai angen gwirfoddolwyr (lleol) i gymryd y baich o

    Pan o’n fach mi roedd y Goriad yn cael ei argraffu yn y Coleg Normal gan berson lleol oedd yn arbennigwr ar DTP. Fe oedd y ‘gatekeeper’.. y ddolen bwysicaf yn y gadwyn. Roedd pawb arfer mynd lawr i helpu “blygu’r” papur a roedd teimlad fod rhywun yn gwneud rhywbeth pwysig. Sut mae ail-greu y teimlad hynny o gymuned mewn oes electronig, ond peidio dibynnu ar yr ‘arbennigwr lleol’ ar gyfer y gwaith cysodi a cyhoeddi (sy’n dal yn dueddol o ddigwydd hyd yn oed gyda’r dechnoleg newydd)?

  5. Pwyntiau diddorol uwchben. Dyna un o’r syniadau tu ôl i wefan newydd http://www.lleol.net. Nes i siarad gyda phob un papur bro flwyddyn ddiwethaf yn sôn am y gwasanaeth newydd. Y syniad oedd rhoi cyfle hawdd iawn i bapurau bro rhoi ambell erthygl ar y wefan o dan adran newyddion lleol, gydag adran i bob papur.
    Syniad o geisio cyd weithio gyda’r papurau er mwyn rhoi blas i bobol o’r papur fydd yn gobeithio cynyddu’r gwerthu. Roedd yr adran yma yn fyw am sawl mis, ond ar ôl llawer o alwadau ffôn ac e-byst dim ond dwy erthygl oedd arno. Dwi yn newid yr adran yma i fod yn adran prynu a gwerthu eitemau a fydd yn cynnwys cartrefi.
    Mae’r platfform yn barod, mater o ychwanegi adran newyddion lleol. Mae’r system yn caniatáu creu cyfrifau unigol i bob papur, fydd yn ei galluogi i ychwanegi ddigwyddiadau, swyddi, hyrwyddiadau a mwy.

    Dwi’n gobeithio ceisio eto yn fuan.

    Gyda tamed o ymdrech ag amser dwi’n siŵr fod modd ychwanegi function talu am gopiau electroneg.

  6. Dwinnau’n gweld y safbwynt yna Dafydd, ac wedi ystyried taw angen rhywbeth gwahanol yn llwyr sydd ei angen.

    O gynnig gael CMS benodol ar gyfer y papurau bro presennol, o leia byddai cyfle i rywfaint o’r gwaith gael ei roi ar-lein, gan gynyddu ystod y darllenwyr. Ond efallai bod arbrawf Lleol.net yn dangos pa mor annodd fyddai ceisio argyhoeddi (a hyfforddi) y timau lleol i wneud hynny.

    Un broblem o ran cael pobol newydd i gymryd rhan yn y broses o gynhyrchu newyddion a straeon lleol ydi bod na drefn sefydledig sydd siwr o fod yn annodd iawn ei newid. Efallai y byddai cael cytundeb i atgynhyrchu peth o erthyglau y papurau bro ar-lein yn ddigonol o ran cydweithrediad, a bod yna fath gwahanol o newyddion ac erthyglau yn dod trwy wasanaethau lleol ar-lein. Mae fideo yn un elfen sydd yn bwysig iawn i’w ddatblygu yn fy marn i ac mae ffyrdd o dynnu gwybodaeth o bob math o ffynhonellau eraill trwy RSS.

    Y broblem wedyn ydi trefniant: sut mae ysbrydoli (neu ariannu) rhwydwaith newydd o wefannau lleol Cymraeg? Roedd Papurau Bro siwr o fod yn ddibynnol ar un neu ddau o bobol ym mhob ardal i wthio’r prosiect ymlaen. Dwi’n credu na fyddai’n annodd ffeindio tri ardal lle byddai na ddigon o weithgaredd gwe yn barod (blogiau, trydarwyr, podledu, fideo) i allu creu rhywbeth sydd yn tynnu rhain at eu gilydd mewn ffordd chydig yn fwy naturiol i’r we. Mae trawsblannu cynnwys ond yn parhau yr un dull.

    Dwi’n gwybod nad oes gen i gymaint a hynny o ddiddordeb mewn clywed am hanes ysgolion ac esglwysi, ond mae gen i ddiddordeb mewn cael straeon Cymraeg, adolygiadau lleol, hanesion y cyngor tref a sir, gwybodaeth am ddigywddiadau ac ati. Dydi papurau bro ddim yn gallu darparu y rhanm fwyaf o’r pethau hyn oherwydd ei fod yn gyfrwng araf.

    Ond mae chwant y we am newydd-deb yn codi ei broblemau ei hun. Mae papurau bro yn fisol ac yn stryglo i gael stwff at ei gilydd bob mis. Byddai’n ddymunol cael diweddariadau wythnosol i wasanaeth gwe, ar y lleia, ond mi wn y byddai yna gofnodau lle byddai’n annodd tynnu pethau at eu gilydd. Ond, efallai trwy gyfuno gweithgaredd presennol byddai hynny’n bosib.

    Ti’n iawn bod y plygu yn elfen bwysig o bapurau bro yn hanesyddol, er bod llai a llai o hynny’n digwydd gyda dulliau argraffu gwell. Byddai cyfarfodydd golygyddol yn gallu parhau yr un math o deimlad o undod ac ymdeimlad o ddyletswydd a brogarwch. Hyddorddiant sydd ei angen fwy na dim.

    Mae angen rhywun i’w drio rhywbryd a gweld beth ddeuai ohono.

Mae'r sylwadau wedi cau.