2 sylw

  1. Dwi wedi cael sbam Cymraeg mewn dau ffordd. Yr un cynta oedd cwmni cyhoeddi Cymraeg wnaeth gymryd cyfeiriadau ebost llawer o Gymry Cymraeg oddi ar we er mwyn danfon allan hysbysebion i’w cynnyrch.

    Ac yn ddiweddar fe ges i UCE Cymraeg go iawn. Dwi ddim wedi cael amser i flogio amdano. Mae’n amlwg mai cyfieithiad Google Translate o sbam arferol yw e (dim byd i wneud a Chymru na’r Gymraeg), a ddanfonwyd drwy botnet Rwsiaidd. Rhywsut mae nhw wedi cysylltu’r cyfeiriad ebost gyda iaith penodol, efallai oherwydd fod cynnwys fy mlog i gyd yn Gymraeg. Pan ga’i amser wnai fynd nôl at hyn.

Mae'r sylwadau wedi cau.