Croeso i grŵp-blog Hacio’r Iaith!
Cyfrif
Mae unrhyw un sydd wedi dod i Hacio’r Iaith yn gallu postio ar y blog. Defnyddia gyfrinair cryf plis.
(Dim cyfrif? Os wyt ti eisiau cyfrif, anfona dy gyfeiriad ebost at Carl Morris.)
Er mwyn mewngofnodi mae dolen i’r Panel defnyddwr yn y troedyn.
Mae modd blogio o’r tudalen blaen os wyt ti wedi mewngofnodi.
Afatar
Mae Hacio’r Iaith yn defnyddio Gravatar – os wyt ti eisiau afatar dy hun mae rhaid i ti creu cyfrif yna hefyd gyda’r un cyfeiriad ebost â dy gyfrif Hacio’r Iaith.
Cofnodion
Mae popeth yma ar agor i’r we gyfan. Rydyn ni’n croesawi unrhyw beth sydd yn gysylltiedig â thechnoleg a’r Gymraeg. Mae’r teitl yn bwysig iawn – bydd pobol yn ei darllen o gwmpas y we felly paid â bod yn rhy glyfar! Disgrifia’r cynnwys y cofnod.
Dy flog dy hun
Rydyn ni’n annog blogio ar dy flog dy hun hefyd. Wrth gwrs! Ac mae croeso i ti postio’r ddolen uniongyrchol yma gydag esboniad er mwyn ei rhannu.
Sylwadau
Mae aelodau yn gallu postio cofnodion. Ond rydyn ni’n croesawu sylwadau gan bobl sydd ddim wedi mynychu Hacio’r Iaith.
Termau ac Amodau
Rydyn ni’n arbrofol yma. Bydd pethau’n araf/annibynadwy efallai. Bydda’n amyneddgar plîs! Cadwa copi wrth gefn dy hun o dy gofnodion rhag ofn.
Gwefan
Diolch i Iestyn Lloyd am boster a logo. Diolch i Bryn Salisbury, Rhys Wynne a Rhodri ap Dyfrig am eich help gyda’r cyfieithiad. Diolch i WordPress ac Automattic hefyd. Adeiladwyd gan Carl Morris, mis Ionawr 2010