Tua phythefnos yn ôl, clywsom y newyddion trist iawn am farwolaeth Telsa Gwynne, ar ôl anhwylder hir. Roedd yn adnabyddus i nifer fawr ohonom o fewn Hacio’r Iaith: yn ffrind, ac yn gydymaith.
Mae hi’n anodd iawn gwneud cyfiawnder â’r amryfal weithgareddau yr oedd Telsa’n ymwneud â hwy. Digon yw dweud eu bod hi’n un o’r rhai oedd yn pontio’r technolegol, yr ieithyddol a’r llenyddol yn gwbl ddi-drafferth. Mi ddysgodd Gymraeg fel oedolyn, gan gychwyn yn 2002, ond prin y gellir meddwl amdani fel ‘dysgwr Cymraeg’ o unrhyw fath. Llai na naw mlynedd ar ôl cychwyn ei chwrs Mynediad, mi raddiodd o Brifysgol Abertawe, gyda gradd dosbarth-cyntaf ddisglair yn y Gymraeg, ac yn syth wedyn, cychwynnodd ar ymchwil doethuriaethol. Mi fyddai ei PhD wedi bod yn arloesol ac yn fawr ei ddylanwad – ei phwnc oedd cywair y Gymraeg ar gyfryngau digidol a chymdeithasol – a hynny’n adeiladu ar ben traethawd hir hynod wych o’i gradd gyntaf.
Yn yr haclediad diweddaraf, disgrifiwyd Telsa fel ‘arloeswr’, disgrifiad perffaith ohoni o fewn sawl maes. Soniodd Sioned Mills am gyfraniad Telsa tuag at gyfarfodydd Hacio’r Iaith, a’r ffordd yr oedd hi’n gwneud i bobl o bob cefndir deimlo’n hollol gartrefol o fewn meysydd technegol. Mae hynny’n ddawn a hanner, ond mae’n adlewyrchu cymeriad Telsa hefyd: yn eangfrydig, yn groesawgar, ac yn llawenhau ac ymhyfrydu yn y rhai oedd yn cyfrannu at fydoedd technoleg a’r Cymraeg.
Roedd hi yn un o’r cyfranwyr hynny hefyd, wrth reswm. Roedd yn rhan annatod o’r ymdrech i gyfieithu’r penbwrdd rhydd, GNOME, i’r Gymraeg, ac mae hi’n brofiad chwerw-felys ail-ddarllen y negeseuon e-byst cynhyrfus anfonwyd ganddi bryd hynny, a oedd yn adrodd ar gynnydd y project hwnnw. Er bod ei gwyleidd-dra yn ei hatal rhag galw ei hun yn ‘gyfieithydd’, dyna’r oedd hi, ac roedd manwl-gywirdeb ei gwaith yn fodd i sgleinio a pherffeithio’r cyfieithiad. Roedd hi’n un o brif gyfranwyr y Wicipedia Cymraeg am sawl blwyddyn, ac mi oedd yn weithgar iawn gyda’r Gymdeithas Meddalwedd Cymraeg.
Nid dyna derfyn ei hymwneud a chyfrifiadura, o bell ffordd. Roedd Telsa’n cadw dyddiadur ar-lein (na, nid blog – roedd yn gas ganddi’r term, nad oedd yn bodoli beth bynnag yn 1998, pan ddechreuodd hi ddefnyddio’r we i gofnodi ei bywyd), roedd hi’n ddogfennwr i brosiectau cod agored, ac yn frwdfrydig dros drwsio ac adrodd am fygiau mewn cod – gan egluro’n wych i eraill sut y medren nhw wneud hynny hefyd.
Carai’r Gymraeg yn ogystal. Waldo Williams oedd un o’i hoff feirdd, rhywun oedd yn cydweddu’n hynod â’r ffordd yr oedd hi’n gweld y byd. Ac er nad ydw i’n or-hoff o sentimentaleiddio, mae’n anodd peidio meddwl bod cerdd enwog Waldo, sy’n cychwyn wrth ddisgrifio bywyd yn nhermau ‘neuadd fawr rhwng cyfyng furiau’, hefyd i ryw raddau yn ymgorffori bywyd Telsa. Creodd neuadd gyforiog, gyfoethog, ac er gwaethaf pob dim, ni lwyddodd y muriau i’w cyfyngu.
Hwyl fawr, Telsa. Fe fydd hi’n chwith iawn ar dy ôl.
Rhys Jones
Gyda chydymdeimladau dwys at Alan, Terry, Deborah, a gweddill y teulu. Gellir cyflwyno rhoddion er cof am Telsa i elusen Gofal Canser Marie Curie.