Mae achos enllib yn dechrau heddiw rhwng Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin a blogiwr lleol.
Mae Jacqui Thompson o Lanwrda, sy’n blogio dan yr enw ‘Caebrwyn’ ac wedi bod yn feirniadol o bolisïau cynllunio’r cyngor sir, yn dwyn achos yn erbyn y Prif Weithredwr, Mark James.
Ond mae e hefyd yn dwyn achos o enllib yn ei herbyn hi, ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi arian at y pwrpas.
Mae’n anghyfreithlon i awdurdod lleol ddwyn achos enllib ond mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud ei bod hi’n gymwys mewn “amgylchiadau eithriadol” iddyn nhw sicrhau nad yw un o’u swyddogion nhw ar ei golled yn ariannol mewn achos enllib.
Parhau i ddarllen y stori ar Golwg360
Blog Caebrwyn a chyfrif Twitter
Dyw’r stori hon ddim yn delio gyda’r Gymraeg ond byddai’r achos yn bwysig i unrhyw un sydd yn gyhoeddi sylwadau am gynghorau yng Nghymru – dyma pam dw i wedi ei rhannu.