Yn dilyn cyffro cyhoeddi Hacio’r Iaith 2013 yr wythnos diwethaf, dw i am drefnu Hacio’r Iaith Bach yn Rhuthun.
Does dim Hacio’r Iaith Bach wedi bod yn y gogledd ddwyrain eto, felly byddai’n braf cwrdd a gîcs yr ardal.
Os ydych ar gael nos Iau yma (8fed o Dachwedd), ac eisiau trafod technoleg, y we ac iaith, galwch heibio’r Castle Hotel ar sgwâr Rhuthun am 7:00 ac edrych allan amdana i (Rhys) neu Robin.
Cofiwch am hwn. Mae’r dau bellach yn dri.!
Dw i’n methu dod heno yn anffodus. Ond braf i weld eich bod chi’n cyd-drefnu. Mwynhewch.
Diolch, Ces i dipyn o aildrydariadau gan unigolion/grwpiau yn yr ardal, ond yn anffodus roedd client Twitter fy ffon wedi byrhau’r URL a’i dorri! O wel… MI adroddaf yn ol.
Waw, daeth pump heno. Dw i’n meddwl ei fod yn wych ein bod yn gallu trefnu digwyddiad fel hyn ar fyr rybudd mewn ardal gwbl newydd a bod yna bobl yn barod i ddod draw. Daeth Robin, Meinir, Llinos, Euros a minnau.
Trafodwyd: