Hacio’r Iaith wedi ennill blog technoleg gorau yn y #walesblogawards

Dwi ddim yn un mawr am y math yma o wobrwyon, ond *ma* hi’n neis cael cydnabyddiaeth gan bobol eraill yn y maes. Ac mi gafodd @hywelm a @dailingual noson allan!

Dym’r llun i brofi: 

Mi ddwedodd y beirniaid bethau neis iawn chwarae teg (gallwch chi wylio’r fideo yma – tua 49:00), gan gynnwys y peth pwysig bod haciaith yn fwy na blog ac yn waith lot fawr o bobol wahanol. Ma bron 3 mlynedd wedi mynd heibio erbyn hyn efo 639 o gofnodion blog, 1,189 o sylwadau, dros 20 o bodlediadau amêsing, 3 BarCamp, llwythi o ddigwyddiadau Hacio’r Iaith Bach a rhwydwaith rhannu gwybodaeth dda ar Twitter.

Ossym!

Be da ni’n neud nesa?

5 sylw

  1. Llongyfarchiadau a da iawn chi. Codi’r bar rwan ac amddiffyn y wobr blwyddyn nesaf.

Mae'r sylwadau wedi cau.