Dw i’n pasio neges Inventorium ymlaen.
Beth sy’n digwydd i’ch eiliadau eureka?
Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’ch syniad gwych ar ôl ei sgrifennu ar napcyn?Mae sesiwn Meic Agored Inventorium yn gyfle i chi rannu’r syniadau gorau rydych wedi’u hysgrifennu ar napcyn, ar fat cwrw, ac ar gefn eich llaw.
Mae croeso i unrhyw un alw draw, hyd yn oed heb syniad!
Bydd gennych dri munud i sefyll ar eich traed, bod yn ddewr a chyflwyno eich syniad mwyaf ysbrydoledig a dychmygus i gynulleidfa a fydd yn cynnwys pawb o arianwyr i bobl chwilfrydig, fydd yn gofyn cwestiynau a rhoi eu hymateb yn y fan a’r lle.
Bydd y syniadau gorau yn cael cefnogaeth gan dîm Inventorium ynghylch sut i ddatblygu eu syniadau ymhellach yn fodelau busnes llwyddiannus.
Mae’r sesiwn Meic Agored yn gyfle i chi rannu syniadau, ymarfer cynnig syniadau, dechrau sgwrsio a thrafod, a ffurfio partneriaethau newydd gwych.
Rydym yn estyn gwahoddiad i rai o’r prif arianwyr, sefydliadau’r llywodraeth a busnes, gan gynnwys Croeso Cymru, Xenos, Business Link, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chynghrair Meddalwedd Cymru i fod yn y gynulleidfa. Mae’r sefydliadau hyn mor awyddus â chi i gael syniadau newydd.
Mae syniadau yn gallu ymddangos o unrhyw le, ac wyddoch chi ddim ble byddwch yn cwrdd â’r bobl allweddol, sydd â’r sgiliau i wireddu eich syniad.
Efallai y dewch o hyd i:
Eich partneriaid busnes ar gyfer y dyfodol
Pobl fydd yn buddsoddi yn eich syniad
Rhywun i drafod neu hyrwyddo eich syniad
Cyfaill beirniadol pwysig
Dylunwyr, datblygwyr, arbenigwyr ar gynnwys, sydd eisiau gweithio gyda chi
Arweinwyr masnachol gydag arian a gwybodaeth i’ch cefnogi
Cofiwch, bydd y cynnwys yr un mor gyffrous â’ch cyflwyniad. Tri munud fydd gennych, felly gwnewch eich gorau glas!Pryd: Dydd Mawrth 17 Ebrill 2012 18.30 – 21.00
Ble: Fat Cat Bangor
I gael gwybod mwy, cysylltwch â jenny@inventorium.org.