chwilio am lluniau Sleeveface, helpwch!

llun gan Huw Evans a John Rostron

Dw i’n rhedeg gwefan o’r enw Sleeveface.

Dw i’n chwilio am luniau Sleeveface gan bobol o Gymru yn enwedig ar hyn o bryd

e.e gyda:
– artistiaid Cymraeg
– artistiaid o Gymru
– unrhyw artist rhyngwladol gyda thirwedd Cymru yn y cefndir
– unrhyw artist rhyngwladol gyda dillad Cymru
– Nadolig
– Hydref
– unrhyw beth!

Unrhyw un?

Cyfeiriad ebost am luniau: submit malwen sleeveface.com

Diolch am ddarllen.

(Os wyt ti angen help gyda phroject arlein ac eisiau postio cais ar haciaith.cymru, mae’n hollol iawn wrth gwrs. Ti’n gallu defnyddio’r tag helpwch.)

llun gan Huw Evans a John Rostron

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.