Beth yw Hacio’r Iaith?

Cymuned o bobol proffesiynol ac amatur yw Hacio’r Iaith sydd yn trin a thrafod sut mae technoleg yn berthnasol i’r Gymraeg, sut mae’r iaith yn cael ei ddefnyddio a beth yw’r posibiliadau.

Caiff sawl maes ei drafod, gan gynnwys:

  • blogio, fideo a chyfryngau cymdeithasol eraill
  • e-lyfrau
  • lleoleiddio a rhyngwladoli
  • cyfieithu peiriant
  • API a stwnsh
  • addysg
  • ymgyrchu a gweithredu
  • newyddion a newyddiaduriaeth
  • hyper-lleol a phapurau bro
  • symudol
  • meddawledd rydd a chod agored
  • hawlfraint a thrwyddedu
  • a mwy…

Rydyn ni’n cwrdd trwy’r flwyddyn ledled Cymru. Mae ein digwyddiadau yn cael eu trefnu gan wirfoddolwyr a’i ariannu gan ein noddwyr.

Anghynhadledd Hacio’r Iaith

Mae digwyddiadau Hacio’r Iaith yn rhannol BarCamp a rhannol Hack Day (y ddau yn gydnabyddedig yn fyd-eang fel fformatau ar gyfer digwyddiadau). Mae llawer o rannu syniadau, sesiynau arddangos ac ymarferol, oll drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ym mhob anghynhadledd mae rhaglen y dydd gan y bobl ar gyfer y bobl, felly rydym yn annog cyfranogaeth go iawn a croesawn unrhyw un sy’n dymuno cynnal sesiwn yn berthnasol i dechnoleg a’r Gymraeg. Gall sesiwn gael ei gyflwyno gan fwy nag un person – os yw’n ddefnyddiol, diddorol neu hwyl ewch amdani! Bydd yna stwff ar gyfer dechreuwyr pur, y gîcs, a phawb yn y canol.

Iaith

Ffocws y digwyddiad yw’r defnydd o dechnoleg y we gan siaradwyr Cymraeg, drwy gyfrwng y Gymraeg ac hefyd ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Bydd cyfieithu ar y pryd i ieithoedd eraill ar gael drwy gais o flaen llaw.