Diweddariadau Ionawr, 2018 Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 2:48 PM ar 28 January 2018 Dolen Barhaol
    Tagiau: , ,   

    Hacio’r Iaith 2018 – diolch o galon 

    Diolch o galon i holl fynychwyr a chyd-drefnwyr Hacio’r Iaith 2018 am ddigwyddiad arddechog ddoe!

    Byddaf i’n cnoi cil dros eich cyflwyniadau a’r trafodaethau am y flwyddyn i ddod!

    Pigion

    Dyma ddetholiad o’r hyn a drafodwyd (sy’n anghyflawn dw i’n gwybod).

    Mae Rhys Wynne wedi gwneud job ardderchog o grynhoi rhai o’r sesiynau.

    Mae hefyd llwytho o bethau Twitter ar yr hashnod #haciaith.

    Cadwch y ddydiad: Celtic Knot 2018

    I’r rhai sydd eisoes yn meddwl am y digwyddiad tech ieithyddol nesaf mae Jason Evans ac eraill yn trefnu cynhadledd Celtic Knot, Aberystwyth, 5-6 Gorffennaf 2018 sydd yn debygol o denu pobl o sawl cefndir ieithyddol yn Ewrop (nid dim ond pobl ‘Celtaidd’). Fe fydd rhagor o fanylion nes ymlaen. Yn y cyfamser ewch i wefan Celtic Knot sydd yn cynnwys galw am bapurau academaidd newydd.

     
  • Carl Morris 11:46 PM ar 4 August 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: ,   

    Dewch i helpu recordio’r Haclediad am 2YH dydd Llun ym ‘m@es’ ar y maes #steddfod2013 

    hacior-iaith-maes-eisteddfod-dinbych2013-640

    Steddfodwyr! Dewch yn llu i ‘m@es’ ar y maes i helpu recordio’r Haclediad gyda ni, sef podlediad am dechnoleg, y we, aps, symudol a’r Gymraeg
    2:00YH
    dydd Llun 5ed mis Awst 2013
    Croeso cynnes i bawb!
    Trafodaeth: #haciaith

    Recordir y 30fed pennod o’r Haclediad yng nghwmni @bryns @iestynx @llef (mewn ysbryd) ac eraill.

    Gweler hefyd: amserlen yr wythnos yn Ninbych 2013

     
  • Sioned Mills 5:03 PM ar 7 April 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , ,   

    Haclediad #19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!) 

    Da ni’n agosáu at yr 20 fawr, felly tan hynna mwynhewch rifyn eclectig 19 o’r Haclediad! Mis ‘ma bydd Sioned (@llef) Bryn (@bryns) ac Iestyn (@iestynx) yn trafod yr iPad 3 gan fod Bryn wedi cael un neu ddau, gwrandewch am y stori sut yn union ddigwyddodd hynny.

    Cynlluniau ysbïo’r llywodraeth, a pha mor breifat bydd ein cysylltiadau ar-lein sy’ angen ? Bydd hyd yn oed MWY am e-lyfrau (ar gael o’ch llyfrgell leol nawr), saga barhaol y Windows Phone, a llwythi o fwydro amrywiol a difir technolegau arall, addo!

    Diolch am lawrlwytho’r rhifyn yma, ymlaen at yr 20!

    Dolenni

    SNOOPIO Llywodraeth

    Ble Mae’r Gymraeg

    eLyfrau yn y Llyfrgell

     
    • Rhodri ap Dyfrig 4:28 PM ar 9 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Diolch am y plyg Ble Mae’r Gymraeg?

      Ma’r holl beth yn eitha beta ar hyn o bryd, felly dwi’n siwr bod ffordd well o ddisgrifio be ydi o neu i eirio’tr categoriau. Dwi hefyd ddim yn siwr os ydi hi’n well cael y map fel clystyrau yn lle dots unigol. Fasa chydig o adborth ar hynny’n wych. Na’i flogio amdano fo yma’n fuan.

      Ma 35 cofnod wedi cyrraedd sydd yn reit galonogol dwi’n meddwl.

    • Carl Morris 11:42 PM ar 10 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Sioe da iawn. Dylai’r Comisiynydd dilyn @meri_go_rownd am enghraifft da o ddefnydd Twitter. O ddifri.

    • John Shimmin 10:09 PM ar 30 Ebrill 2012 Dolen Barhaol

      Dw i’n gynorthwy’dd llyfrgell a felly dw i’n gwybod tipyn bach am y fater elyfrau ‘na (ond dw i ddim yn Nghymru). Meddwn i bod y peth gyda Bluefire a DRM i gyd allan o ddwylo llyfrgellau. Fel ddwedoch chi, dydy’r cyhoeddwyr ddim am bawb cael y llyfrau i gyd am ddim jyst achos bod rhyw lyfrgell wedi talu amdanyn nhw. Felly, mae nhw’n creu’r systemau ‘ma gyda benthyg ffeiliau a’u dileu nhw ar ôl wythnos fel lyfrgell ddiriaethol sy’n atal pobl rhag gwasgaru ffeiliau. Achos pe tasai’r llyfrgell yn medru prynu elyfr heb cyfyngiad benthyg a’i benthyg i gan neu fil o bobl ar yr un pryd, pam fyddai pobl yn prynu eu copiau eu hun? Byddai fel darllen gwefan neu rywbeth, jyst mynd i wefan y llyfrgell a chael y llyfr am ddim; neis iawn i ninnau ond problem i’r cwmniau i gyd. Hoffai llyfrgellau prynu elyfrau amherchenogol heb cyfyngiad, creda fi! Mae nhw’n talu trwy’r trwyn am y rhai cyfyngedig sydd ganddyn nhw rwan, yn ôl y bos. Ar gyhoeddwyr ydy’r bai, ond dw i’n dallt eu golwg nhw. S’gen i’m ateb chwaith.

      O ie – dw i’n caru’r Haclediad, yn wir. Diffyg podlediadau Cymraeg ofnadwy, ond dyma un grêt. Diolch!

  • Bryn Salisbury 11:57 AM ar 23 January 2012 Dolen Barhaol  

    Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf… 

    Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf o’ch Hacio’r Iaith cyntaf – wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol ar ei flog: Persona Non Grata: Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth? | Hacking what?” ac ar flog Golwg360.

    Mewn ychydig dan wythnos, bydd Aberystwyth yn leoliad ar gyfer Hacio’r Iaith 2012 (28ain Ionawr 2012). Hwn fydd y trydydd digwyddiad, ac un o’r ‘barcamps’ mwyaf yng Nghymru.

    Mae llawer wedi gofyn i mi esbonio beth yn union ydi ‘bar camp’… wel…

    Mae bar camp yn fath arbennig o gynhadledd sy’n cael ei ddisgrifio yn Saesneg fel ‘unconference’, does dim amserlen, dim digwyddiadau na siaradwyr wedi ei drefnu… mae popeth yn cael ei drefnu ar y diwrnod.

    Ydi, mae’n swnio’n wallgof, ond mae’n gweithio. Mae’r amserlen yn cael ei benderfynu ar y diwrnod gan bawb sy’n troi lan. Mae pawb yn cael ei annog i arwyddo lan a siarad ar unrhyw bwnc maen nhw eisiau. Er bod thema’r digwyddiad ydi technoleg, mae’n bosib dehongli hyn mewn sawl ffordd i siarad am unrhyw bwnc, ac mae’n bosib trafod unrhyw beth o effaith polisi’r llywodraeth ar ddefnydd y we, i hanes ‘memes’ y rhyngrwyd.

    Dwi wedi bod i sawl digwyddiad o’r math ‘ma, ac mae pethau’n gallu bod mor eang â ‘ny… yn ystod Barcamp Llundain 2011, ddaru cannoedd o bobl troi lan i wrando a siarad. Mewn un ystafell, roedd dynes yn disgrifio ei gwaith hi o adolygu siocled ar ei gwefan hi (roedd hi di dod a rhywfaint o siocled hefo hi!), tra mewn ystafell arall, roedd blogiwr wisgi yn rhedeg sesiwn “Absinthe for Beginners”, tra mewn ystafell arall roedd person yn rhedeg sesiwn ar greu gemau ar gyfer yr iPhone. Y peth gwallgof? Roedd hyn i gyd o fewn yr un awr!

    Ar ddechrau’r dydd, fydd y bobl yno yn ymgasglu wrth y ‘grid’ a rhoi lawr pa drafodaeth maen nhw eisiau cynnal. Fel dwi wedi sôn yn barod, mae’n bosib siarad am unrhyw beth (fel i mi ddweud, siocled ag absinthe…). Y cwestiwn nesaf yw, oes *rhaid* i mi siarad?

    Wel, does dim *rhaid* i chi… ond dylsa chi gwneud. Mae pawb sy’n dod eisiau gwrando ar drafodaethau a ballu. Maen nhw *eisiau* clywed gynoch chi. Does neb yn mynd i waeddi, codi cywilydd na gwneud hwyl ohonoch. Maen nhw eisiau clywed gan bobl wybodus gydag angerdd at y pwnc dan sylw. Does dim angen creu Powerpoint, does dim angen wbath technegol, does dim rhaid paratoi dim. Yn llythrennol, dim ond angen i chi arwyddo lan am slot, a siarad. Mae’r holl beth amdanoch chi’n rhannu eich angerdd a’ch gwybodaeth.

    Gallwch drafod rhywbeth sy’n eich diddori chi, dangos prosiect da chi’n gweithio arno, neu gynnal trafodaeth ar bwnc llosg. Jest angen i chi ddewis enw, amser a bant a ni!

    Eisiau syniadau? Cymrwch olwg ar y tudalen ‘ma oddi ar Lanyrd.com, mae ‘na restr o bron i 1000 o sesiynau mewn cannoedd o barcamps dros y byd gan gynnwys “Fancy a Pint?” yn Barcamp Llundain (un o rhai fi! Ddaru mi gyfarfod y cyd-gyflwynydd y bore ‘na, ac erbyn y pnawn mi ddaru ni gyflwyno’r sesiwn trafod gydag ystafell lawn o bobl… dim PowerPoint na dim), neu “How to Podcast for Free” o Barcamp Lerpwl (dim un o rhai fi…). Fel ddaru mi ddweud, *unrhyw beth*.

    Os eich bod chi ddim yn siŵr am wneud sesiwn, fe allwch chi gysylltu gyda fi cyn dydd Sadwrn nesaf (bryn.salisbury@gmail.com, neu @bryns ar twitter), neu ofyn i mi ar y diwrnod. Dwi wedi cael profiadau gwych yn gwneud sesiynau mewn barcamps, a dylsa chi gael hefyd. Mae’n siawns da cael ymarfer siarad yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa sydd eisiau clywed gynoch chi, ac eisiau eich cefnogi.

    Heblaw am y sesiynau, fe gewch chi gyfle i wylio Sioned (@llef), Iestyn (@iestynx) a finnau yn recordio’r Haclediad o flaen cynulleidfa fyw. Fydd y peth yn wych. Mae’r flwyddyn ‘ma yn siapio lan yn arbennig o dda, a hwn fydd y flwyddyn fwyaf erioed, a dwi wedi gwirioni. Os eich bod chi heb fod o’r blaen, mae ‘na deimlad gwych o ymgasglu gyda grŵp mawr o bobl sydd gydag angerdd dros bwnc. Fydda chi’n gadael ac eisiau dechrau tomen o brosiectau newydd yn syth bin… a chofiwch, fydd ‘ny yn rhoi digon i chi drafod yn Hacio’r Iaith 2013!

    Gwnai weld chi yno bois!

    B

     
  • Carl Morris 6:41 PM ar 12 November 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , ,   

    Amazon yn gwrthod cyhoeddi llyfrau Malteg. Amser boicot byd-eang? 

    Amazon, Kindle a’i fformat caeëdig KDP yn gwrthod derbyn iaith arall:

    […] Chris Gruppetta, director of publishing at Merlin Publishers, said he approached amazon.com in July, expressing his interest and querying whether it was possible to publish Kindle e-books in Maltese. Mr Gruppetta was aware that till then they only published in six main languages: Spanish, French, German, Italian, Portuguese and English.

    A representative of amazon.com wrote back saying if the Maltese language consisted only of Latin alphabet and unicode – which it does – “you can certainly publish it through KDP”.

    On hearing this, Merlin publishers immediately started working with an IT company to convert three of their top-selling titles – Trevor Zahra’s Penumbra and Nanna Genoveffa and Pierre Mejlaq’s Lejl – into professional Kindle e-books.

    “For the first time ever, Maltese readers anywhere in the world would have been able to read great fiction in Maltese just by clicking on amazon.com,” said Mr Gruppetta.

    Amazon.com would have kept 65 per cent of the income generated through sales of the e-books. The publishers would have pocketed less than 35 per cent as they would have had to deduct the EU VAT rate as well as the US income tax, since amazon.com sales are generated in the US.

    “Admittedly production costs of e-books are lower because you’re doing away with printing, however, there are other costs, such as programming, marketing and so on,” said Mr Gruppetta.

    Within a few weeks, all the technology was in place and the trial runs worked smoothly. However, a few days away from the official launch, Mr Gruppetta was contacted by a representative of amazon.com and was told he had been given “incorrect information”.

    “We will not be publishing your book. Please be sure to check back in the coming months as we’re working to support titles in more languages,” the representatives said.

    […]

    Mr Gruppetta said representatives of amazon.com told him at the Frankfurt Book Fair that unless someone within amazon.com company spoke the language they would not publish books in that language. “Apparently, this is to ensure there’s no pornographic or otherwise objectionable content,” said Mr Gruppetta. […]

    http://www.timesofmalta.com/articles/view/20111110/local/No-Maltese-thank-you-Amazon-tells-publisher.393051 (trwy @iestynx)

    Dyma beth sy’n digwydd gyda waliau a pham dw i’n meddwl bod systemau agored yn well. Tasai Kindle yn agored basai’n bosib defnyddio llyfrau yn unrhyw iaith arno fe ac yn werthu llyfrau ar gyfer Kindle yn uniongyrchol (ac yn gadw mwy o’r elwau) neu trwy siop annibynnol. Mae’r sefyllfa yma yn cam yn ôl o’r rhyddid ni wedi cael gyda llyfrau print ers 1546 o leiaf, nid gwelliant.

    Yn fy marn personol i, dylen ni boicotio Amazon yn ein llyfrgelloedd, ysgolion a chartrefi ac yn mabwysiadu dyfeisiau sydd yn gallu derbyn Cymraeg fel default, e.e. Sony a Barnes&Noble ac yn brynu’n e-lyfrau a llyfrau printiedig trwy siopau eraill. Dw i’n siwr bydd cefnogaeth i’n boicot ymhlith ieithoedd eraill o gwmpas y byd.

     
    • Carl Morris 11:17 AM ar 15 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Un o’r amcanion tu ôl y boicot fydd creu gofod i siopau eraill yn meddyliau pobol. Dw i wir yn meddwl bydd rhyddid mynegiant nawr ac yn y dyfodol yn dibynnu ar amrywiaeth yn y farchnad e-lyfrau.

    • Rhodri ap Dyfrig 1:08 PM ar 15 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Rydych chi’n rhydd; i ddarllen beth rydyn ni’n dweud wrthych chi am ddarllen!

      Nid dim ond Amazon yw y broblem. Mae sawl corfforaeth dechnolegol yn elyniaethus i amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol gan gynnwys y BBC. Eraill fel Google, yn agnostig, gan arwain at yr un canlyniad gwael i’r defnyddiwr (dwi wedi gorfod newid gosodiad Google nôl i’r Saesneg am fod y gwasanaeth Cymraeg mor israddol). Eraill fel Microsoft, yn gwneud gwaith clodwiw, ond eto angen rhagor o waith.

      Oes angen ymgyrch ehangach na dim ond Amazon yma? O’n i’n pendroni a ydi hyn yn ffitio dan briff yr Open Rights Group neu Gymdeithas yr Iaith Gymraeg?

      Ydi hawliau ieithyddol arlein yn gydnaws ag agenda ‘agored’ ORG a’r Internet Society? Ydi pethau fel ymyrraeth farchnad gan lywodraeth i roi cymorth i hyrwyddo cynnwys a defnydd o’r Gymraeg arlein yn tynnu’n groes i ysbryd ‘rhyddid arlein rhyngwladol’ (h.y. free market libertarianism technolegol). Os ddim ai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw’r man ar gyfer ymgyrch o’r fath? Oes angen mudiad ymgyrchu Cymraeg newydd sydd yn lobio dros, tynnu sylw at a hyrwyddo defnydd da o’r we a meddalwedd yn Gymraeg?

      Dwi wedi holi os yw Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (mae rhifyn diwethaf eu cylchgrawn yn digwydd bod ar lenyddiaeth Malta) yn gallu edrych ymhellach ar y sefyllfa Malteg/Cymraeg/eraill, ond llenyddol yn unig yw eu ffocws. Bosib bod rôl trawsffiniol i sefydliadau fel Mercator / CIEMEN yn hyn o beth? Beth am ein Comisiynydd Iaith newydd? Ai Meri Hughes ddylai fod yn erlid y corfforaethau Americanaidd?

      Yr unig beth sydd yn sicr ydi nad yw Llywdoraeth Cymru, na Phrydain, yn meddwl bod unrhywbeth fel hyn yn bwysig. Yr ail beth sy’n sicr hefyd yw bod lleoliad y corfforaethau hyn y tu allan i’r DU a hyd yn oed yr UE yn ei gwneud yn annodd eu lobio a’n sicr yn annod i’w cael i symud mlaen.

    • iestyn 4:01 PM ar 16 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Ebost gafodd y Lolfa ychydig diwrnodau yn ôl gan Amazon:

      I am sorry but I do not have a resolution available just yet. I have been doing a lot of work with the US to see if we can find a way to support this that is going to be able to be made available to all publishers of Welsh content rather than putting in any more workarounds that go outside of all of our systems. One big concern is that if we start pulling in one or two titles manually we really need to make available for all and to make sure our systems are fully able to support this and ensure that this is a great customer experience. The US team have agreed to do a full review with regard to a number of languages including Welsh but this will not be completed for a while yet. I assure you that I am doing my best to get this new functionality available so please bear with me.

    • Rhodri 3:18 PM ar 18 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Cwpwl o ddolenni perthnasol:

      “The e-book market in Europe”
      http://www.infotoday.eu/Articles/ReadArticle.aspx?ArticleID=78268

      Arolwg gan O’Reilly o’r farchnad ryngwladol ar gyfer e-lyfrau:
      http://radar.oreilly.com/2011/10/survey-global-ebook-market.html

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel